Nick Ramsay yn y Siambr ddoe
Mae cwyn am yr Aelod Cynulliad Ceidwadol, Nick Ramsay, wedi cael ei chyfeirio at  Lywydd y Cynulliad wedi i aelod o’r cyhoedd ei gyhuddo o ymddangos yn feddw yn y siambr ddydd Mawrth.

Fe gysylltodd aelod o’r cyhoedd o etholaeth yr AC Llafur Julie Morgan â’i swyddfa yn honni bod Nick Ramsay wedi bod yn siarad yn aneglur.

Fe gyfeiriodd Julie Morgan, Aelod Cynulliad Llafur Gogledd Caerdydd, y gwyn ymlaen at Lywydd y Cynulliad Rosemary Butler.

Mae disgwyl ymateb gan swyddfa’r Llywydd yn fuan, ac mae’r Ceidwadwyr eisoes wedi dweud na fyddan nhw’n gwneud sylw nes daw’r ymateb hwnnw.

Bu Nick Ramsay’n siarad mewn trafodaeth ar iechyd meddwl brynhawn ddoe yn y siambr, ac fe ddywedodd y person wnaeth y gwyn fod ei “eiriau yn aneglur, digyswllt a haerllug”.

Mewn llythyr i’w Aelod Cynulliad a’r Llywydd fe aeth yr aelod o’r cyhoedd ymlaen i honni fod Ramsay yn “simsan ar ei draed ac yn amlwg wedi meddwi”, a bod hyn yn “anfaddeuol”.

Dywedodd y cwynwr hefyd ei fod yn gryf o blaid datganoli a’i fod yn teimlo fod ymddygiad o’r fath gan AC yn sarhaus i bobl sydd wedi ymgyrchu dros sefydlu’r Senedd.

Ddoe oedd pen-blwydd Nick Ramsay, ond yn ôl ITV fe ddywedodd wrth ei gydweithwyr nad oedd wedi bod yn yfed.

Tair blynedd yn ôl fe ymddiheurodd Ramsay ar ôl cael ei wahardd o darfan yn ei etholaeth yn Sir Fynwy yn dilyn noson gwis.

Cafodd hefyd ei feirniadu yn 2012 am fod yn absennol fwy nag unwaith o bwyllgor menter a busnes yr oedd yn cadeirio.