Ymgyrchwyr fu'n potestio i gadw llyfrgell Rhydyfelin ar agor
Mae ymgyrchwyr a fu’n brwydro yn erbyn cau llyfrgell mewn ardal ddifreintiedig yn Rhondda Cynon Taf yn dathlu wedi i’r cyngor wneud tro pedol a chyhoeddi y bydd y llyfrgell leol yn ail-agor.
Mae trigolion Rhydyfelin wedi bod yn protestio ers i Gyngor Rhondda Cynon Taf benderfynu cau llyfrgell y pentref, er ei bod yn un o ardaloedd tlota’ a mwya’ anghenus y sir.
Roedden nhw’n cyhuddo’r Cyngor o fethu ag ymgynghori gyda’r bobol ac o wneud penderfyniad a oedd yn afresymol o ystyried y dystiolaeth oedd ganddyn nhw.
Ond, ar ôl ennill cais i hawlio adolygiad barnwrol, fe glywodd yr ymgyrchwyr ddoe y bydd y cyngor yn ailagor y llyfrgell.
‘Methu credu’
“Mae’n newyddion ardderchog. Roeddem ni’n dathlu mewn cyfarfod neithiwr a doedd pobol ddim yn credu beth oedden nhw’n ei glywed”, meddai un o arweinwyr yr ymgyrch, Meurig Parri.
“Fe ddywedodd y barnwr bod ein hachos ni yn gryf iawn a dwi’n meddwl fod y cyngor wedyn wedi sylweddoli bod peryg mawr iddyn nhw golli’r achos yn ein herbyn.
“Roedd y cyngor wedi cyflogi barnwr ofnadwy o ddrud ac os fasen nhw wedi mynd ymlaen yr wythnos nesaf heb unrhyw sicrwydd y basen nhw’n ennill byddai’r gost yn debyg iawn o fod yn fwy na chadw’r llyfrgell ar agor am flwyddyn gron.”
Difreintiedig
Yn ôl Meurig Parri, fe benderfynodd y cyngor gau llyfrgell Rhydyfelin a chadw Llyfrgell Pontyclun, sydd mewn ardal fwy llewyrchus, ar agor.
“Mae angen y llyfrgell yn Rhydyfelin. Ychydig o bobol yr ardal sydd â chyfrifiaduron, does dim ceir gan lawer o bobol ac mae’n costio £4 i fynd ar y bws i’r llyfrgell agosa’ ym Mhontypridd.”
“Ni yw’r ardal dlotaf yn Rhondda Cynon Taf ac os yw’r cyngor a’r llywodraeth yn dweud bod angen codi ardaloedd tlawd allan o dlodi, o ran sgiliau a phopeth arall, mae’n beth gwirion iawn i gael gwared â’r llyfrgell.”
Bydd y llyfrgell yn ailagor ar ôl dod o hyd i 3 aelod o staff newydd i weithio yno.