Fe fydd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn rhoi ei araith fawr gyntaf ar addysg yn ddiweddarach heddiw, ac mae disgwyl iddo bwysleisio pwysigrwydd sgiliau PISA yn ysgolion Cymru.

Ynghyd a’r Gweinidog Addysg Huw Lewis, bydd Carwyn Jones yn annerch dros 300 o weithwyr addysg o Gymru ac yn trafod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i barhau i feithrin “yr etifeddiaeth gyfoethog o addysg sydd yn y wlad.”

Mae siaradwyr eraill yn y gynhadledd yng Nghaerdydd yn cynnwys Ann Keane o Estyn, yr Athro Graham Donaldson sy’n arwain adolygiad o’r Cwricwlwm Cenedlaethol, a’r Athro Mel Ainscow, Pencampwr Her Ysgolion Cymru.

Cafodd system addysg Cymru ei beirniadu yn ddiweddar ar ôl i arolwg ddangos bod disgyblion Cymru yn waeth na gweddill y DU am ddarllen, mathemateg a gwyddoniaeth.

‘Sgiliau allweddol’

“Sgiliau PISA yw’r sgiliau mae ein pobol ifanc eu hangen i lwyddo yng Nghymru ac ym mhob man arall yn y byd,” meddai Carwyn Jones.

“Maen nhw wedi eu seilio ar farn cyflogwyr ac yn allweddol i baratoi ein pobol ifanc ar gyfer y byd gwaith.

“Maen nhw hefyd yn mesur llwyddiant disgyblion y wlad ac felly dyna pam ein bod yn rhoi gymaint o bwyslais arnynt.”

Ychwanegodd Huw Lewis: “Rydym wedi cyhoeddi sawl cynllun er mwyn sicrhau bod perfformiad ein hysgolion yn gwella.

“Mae’n rhaid i ni godi’r safon a’r canlyniadau gan bob dysgwr ar bob lefel.”