Protestiadau yn Sao Paolo, Brasil
Mae protestwyr yn erbyn cyflogau isel y diwydiant trafnidiaeth ym Mrasil yn bygwth cynnal streiciau a allai tarfu ar y trefniadau ar gyfer Cwpan y Byd sy’n dechrau’r wythnos hon.
Penderfynodd gweithwyr yn ninas Sao Paolo ddoe y bydden nhw’n gohirio streic am ddeuddydd.
Yn y ddinas honno mae gêm gyntaf Cwpan y Byd rhwng Brasil a Chroatia yn cael ei chynnal ddydd Iau.
Mae’r gweithwyr yn awyddus i gael codiad cyflog o 12% ond ar hyn o bryd, mae penaethiaid yn gwrthod rhoi codiad o fwy nag 8.7% iddyn nhw.
Yn ystod y dydd ddoe, bu’n rhaid i’r heddlu wasgaru tua 100 o weithwyr oedd wedi ymgynnull i brotestio ar bumed diwrnod cyfres o streiciau.
Mae bron i 8,000 o aelodau’r undeb wedi cerdded allan o’u gwaith yn ystod y dyddiau diwethaf ond maen nhw’n dweud nad ydyn nhw am darfu ar Gwpan y Byd yn fwriadol.
Yn ôl yr undeb, bydden nhw’n derbyn y cynnig o godiad cyflog o 8.7% pe bai manteision eraill yn cael eu cynnig iddyn nhw, ond dydyn nhw ddim wedi derbyn unrhyw gynnig tebyg.
Mae tua hanner y gwasanaethau trafnidiaeth danddaearol yn Sao Paolo wedi dod i stop ac mae hyd at 60 o weithwyr fu’n streicio wedi cael eu diswyddo.
Yn rhai o ddinasoedd eraill Brasil, mae athrawon ar streic yn Rio de Janeiro ac fe fu’r heddlu’n streicio mewn rhai dinasoedd.
Bu degau o brotestiadau yn erbyn cynnal Cwpan y Byd yn y wlad hefyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Mae disgwyl i weithwyr trafnidiaeth danddaearol Rio de Janeiro benderfynu heno a fyddan nhw hefyd yn streicio.