Mae amheuon fod brwydr David Moffett yn erbyn Undeb Rygbi Cymru ar ben ar ôl iddo gau ei gyfrif Twitter a chael gwared â chynnwys ei wefan, ddyddiau cyn y cyfarfod cyffredinol arbennig.
Bu’r gŵr o Seland Newydd yn ymgyrchu ers misoedd er mwyn ceisio diwygio’r Undeb, gan eu cyhuddo o ladd ar y gêm yng Nghymru, ac roedd wedi gobeithio cael ei ethol i’r Bwrdd gyda chefnogaeth rhai clybiau.
Ond mae’r datblygiad diweddaraf wedi codi amheuon ei fod bellach wedi rhoi’r gorau i’r frwydr honno.
Mae ei gyfrif Twitter bellach wedi cael ei ddileu, tra bod ei wefan dal yno ond dim ond yn dangos neges sydd yn dymuno pob lwc i’r rheiny fydd yn mynychu’r cyfarfod cyffredinol arbennig.
Yn ogystal â hyn, mae cyfrif Twitter @gwladrugby, sydd yn cael ei redeg gan Dan Allsobrook ac hefyd wedi bod yn feirniadol o URC, hefyd wedi diflannu heddiw.
Ar ei wefan gwladrugby.com, mae neges ganddo’n dweud ei fod wedi cael digon a bod pethau’n dechrau mynd yn annymunol iddo.
Ond does dim arwydd eto a yw’r ddau ddigwyddiad yn gysylltiedig.
Roedd Moffett, a oedd yn brif weithredwr ar URC nes 2005, wedi annog clybiau i alw’r cyfarfod er mwyn ceisio gorfodi newidiadau yn yr Undeb.
Hyd yn hyn does dim cadarnhad wedi dod o du David Moffett ynglŷn â’r rheswm y mae ei wefan a’i gyfrif Twitter wedi cael eu tynnu i lawr.
Gwastraff arian
Dim ond deuddydd yn ôl, fe ategodd Moffett ei alwad ar i gadeirydd yr Undeb, David Pickering, a’r prif weithredwr Roger Lewis, i ymddiswyddo cyn y cyfarfod cyffredinol arbennig.
Honnodd Moffett fod cyflogau’r cadeirydd a’r prif weithredwr wedi cynyddu 67% ers 2007, tra bod cynnydd yng nghyllideb y clybiau yn dod i “gyfanswm truenus o £938 y clwb”.
Dywedodd Moffett hefyd petai Undeb Rygbi Cymru wedi dilyn y cynllun cyllidol oedd yn bodoli pan adawodd ef yn 2005, byddai £16.6 miliwn yn fwy ar gael i’r Undeb.
Yn lle hynny, meddai, fe benderfynodd URC dalu eu dyledion yn gynt nag yr oedden nhw wedi cynllunio, ac felly doedd yr arian hwnnw heb gael ei wario ar glybiau.
Ddoe fe feirniadodd Moffett yr Undeb am beidio â gweithredu’n gynt i werthu tocynnau Cwpan Rygbi’r Byd 2015 i aelodau clybiau yng Nghymru, o ystyried bod rhai o’r gemau am gael eu chwarae yn Stadiwm y Mileniwm.
Yn y gorffennol mae URC wedi dweud bod y “trefniant benthyciadau presennol yn darparu’r fargen orau i rygbi yng Nghymru”.
Mae golwg360 wedi cysylltu ag Undeb Rygbi Cymru am ymateb i sylwadau diweddaraf David Moffett.
Mae’r cyfarfod cyffredinol arbennig wedi cael ei drefnu ym Mhort Talbot ar ddydd Sul, 15 Mehefin. Gallai pleidlais o ddiffyg hyder fod wedi gorfodi newid yn rheolwyr yr undeb, ond nid yw’n glir bellach beth yw sefyllfa Moffett yn hyn i gyd.
‘Propaganda negyddol’
Mewn ymateb i golwg360, dywedodd Undeb Rygbi Cymru mai’r cyfarfod cyffredinol arbennig oedd y lle i drafod y fath faterion, gan feirniadu ymgyrch Moffett.
“Mae Undeb Rygbi Cymru’n ystyried y datganiad i’r wasg [a ryddhaodd Moffett dros y penwythnos] fel esiampl bellach o’r ymgyrch bropaganda dwys a negyddol yn erbyn ein henw da.
“Fe fyddwn yn ateb yr holl gwestiynau yn ymwneud â materion ariannol ac eraill i gynrychiolwyr y clybiau sydd yn aelodau o URC fydd yn mynychu’r Cyfarfod Cyffredinol Arbennig sydd yn digwydd ddydd Sul.”