Mae rhanbarth y Dreigiau wedi cyhoeddi mai’r is-hyfforddwr Kingsley Jones yw eu prif hyfforddwr newydd.
Mae Jones, wnaeth gynrychioli Cymru yn safle’r blaenasgellwr ddeg o weithiau, wedi arwyddo cytundeb tair blynedd.
Fe fydd e’n cydweithio â chyfarwyddwr rygbi’r rhanbarth, Lyn Jones.
Ymunodd Kingsley Jones â rhanbarth Casnewydd Gwent yn 2013 fel is-hyfforddwr, yn dilyn cyfnodau fel prif hyfforddwr a chyfarwyddwr rygbi Siarcod Sale a phrif hyfforddwr tîm cenedlaethol Rwsia.
Dywedodd fod cael dychwelyd i sir ei febyd yn “anrhydedd fawr”.
Ychwanegodd ei fod yn “edrych ymlaen at yr her” o hyfforddi’r Dreigiau.
Mae’r Dreigiau’n cael ei hystyried yn rhanbarth sy’n datblygu chwaraewyr y dyfodol, ac mae 11 o’r chwaraewyr wedi cael eu henwi yng ngharfan Cymru dan 20 ar gyfer Pencampwriaeth Ieuenctid y Byd.
Dywedodd Lyn Jones ei fod e wrth ei fodd “o gael recriwtio rhywun sydd â safonau hyfforddi mor uchel”.
“Roedd yn wych cael Kingsley yma i helpu yn Rodney Parade y tymor diwethaf ond fe fydd ei gael e yma’n llawn amser o fudd i’r chwaraewyr a’r staff hyfforddi.”
Ychwanegodd ei fod yn “gaffaeliad” i’r rhanbarth.