Mae penaethiaid newydd Clwb Pêl-droed Caerdydd yn dechrau ar gyfnod newydd yn eu hanes heddiw, yn dilyn cyfres o newidiadau ymhlith penaethiaid y clwb.
Daeth cadarnhad neithiwr fod y Prif Weithredwr Simon Lim wedi gadael ei swydd, ac mai’r cadeirydd presennol, Mehmet Dalman fyddai’n cymryd yr awenau dros dro.
Cafodd y cyfrifydd o Falaysia, Ken Choo ei benodi’n Rheolwr Cyffredinol y clwb ac fe fu’n bennaeth ar gwmni gwestai yn Llundain am gyfnod.
Yn dilyn y penodiad, dywedodd Mehmet Dalman fod gan Choo “lu o wybodaeth a phrofiad wrth i’r clwb symud ymlaen”.
Mae disgwyl iddo fod yn gyfrifol am ddatblygu model busnes y clwb.
Fe fydd e’n aelod o’r Pwyllgor Gwaith newydd, sy’n cynnwys y rheolwr Ole Gunnar Solskjaer, y perchennog Vincent Tan a Dalman ei hun.
Dywedodd Dalman fod sefydlu’r Pwyllgor Gwaith yn “gam mawr ymlaen”.
Wrth gyhoeddi ymadawiad Lim, dywedodd Dalman ei fod wedi gwneud “cyfraniad gwerthfawr yn ystod y deunaw mis diwethaf”.
Dywedodd Simon Lim: “Gyda balchder mawr y gwnes i weithio yng Nghaerdydd ond rwy’n teimlo mai nawr yw’r amser iawn i symud ymlaen, gan roi amser i’r clwb wneud newidiadau dros yr haf cyn tymor pwysig arall.
“Mae’n fraint fod wedi cynrychioli’r clwb yn ystod ein tymor hanesyddol wrth ennill dyrchafiad ac rwy’n gobeithio’n fawr y gwelwn ni Gaerdydd yn yr Uwch Gynghrair cyn gynted â phosib unwaith eto.”
Diolchodd i Vincent Tan, y bwrdd a staff y clwb am eu cefnogaeth.