Y llong fferi ar ei hochr yn Ne Corea
Mae pedwar o aelodau o griw’r fferi a suddodd yn Ne Corea fis diwethaf wedi cael eu cyhuddo o ddynladdiad.

Dywed erlynwyr eu bod nhw wedi cyhuddo capten y fferi a thri aelod arall o’r criw am eu bod wedi methu a chyflawni eu dyletswyddau i ddiogelu teithwyr pan oedd y llong fferi’n suddo ar 16 Ebrill.

Cafodd 281 o bobl eu lladd yn y trychineb – y rhan fwyaf yn fyfyrwyr ysgol – ac mae 23 arall yn dal ar goll.

Cafodd 11 aelod arall o’r criw eu cyhuddo o esgeulustod a gadael y llong pan oedd teithwyr mewn angen.

Y 15 aelod o’r criw oedd ymhlith y grŵp cyntaf o bobl a gafodd eu hachub pan drodd y llong ar ei hochr.