Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod cynnydd o 3,000 wedi bod yn nifer y bobol sy’n gwrando ar Radio Cymru.

Mae’r ffigwr wedi cynyddu i 143,000 ers y chwarter diwethaf, yn ôl ymchwil RAJAR, sy’n golygu bod 24,000 yn fwy yn gwrando o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd.

Yn ôl y ffigurau, roedd 6,000 yn fwy o bobol wedi gwrando ar Radio Wales yn y chwarter diwethaf na’r chwarter blaenorol, sy’n golygu mai 472,000 yw’r cyfanswm diweddaraf.

Mae hynny’n golygu cynnydd o 10,000 drwy gydol y flwyddyn.