Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyfaddef bod “dryswch” ac “anawsterau” wedi codi wrth iddi ymgynghori ar y Safonau.
Cododd Meri Huws y mater wedi i’r corff ymbarél Mudiadau Dathlu’r Gymraeg – sy’n cynnwys 26 o sefydliadau amlwg gan gynnwys Merched y Wawr, Undeb Amaethwyr Cymru ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru – ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg yn cwyno am y drefn o ymgynghori ar y Safonau.
Y Safonau fydd, maes o law, yn nodi cyfrifoldebau cyrff cyhoeddus o ran darparu gwasanaethau drwy gyfrwng yr Iaith Gymraeg.
Yn ôl y Mudiad, nid oedd yn glir ai’r Comisiynydd yntau Llywodraeth Cymru oedd yn gyfrifol am ymgynghori ar y Safonau, a bod “teimlad o broses sydd wedi cwympo rhwng dwy stôl”.
Aneglur
Bu’r broses ymgynghori, rhwng Ionawr ac Ebrill eleni, yn “aneglur a dryslyd” yn ôl y Mudiad.
Roedd y Comisiynydd wedi cynnal ‘ymchwiliad safonau’ i weld pa rai o’r 134 o Safonau drafft sydd gan Lywodraeth Cymru dan sylw, a fyddai’n gymwys i gynghorau sir a pharciau cenedlaethol. Ond wrth ymateb i’r ymgynghoriad mae’r cyhoedd wedi bod yn cynnig sylwadau ar gynnwys Safonau, yn hytrach na pha rai sy’n berthnasol i’r cynghorau a’r parciau.
Ac yn ei llythyr at Fudiad Dathlu’r Gymraeg mae Meri Huws yn cyfaddef bod pobol wedi drysu:
“Wrth edrych ar y dystiolaeth a dderbyniwyd gan aelodau’r cyhoedd fel rhan o’r ymchwiliadau safonau cyntaf, ymddengys bod cynnwys y rhan helaeth o ymatebion a dderbyniwyd gan aelodau o’r cyhoedd yn ymwneud â’r safonau arfaethedig eu hunain, ac nid ar bwnc yr ymchwiliad safonau.
“Amlyga hynny y bu dryswch ac mae’n deg casglu i hynny ddigwydd oherwydd y gwahanol ofynion ymgynghori sydd ar y Llywodraeth a Chomisiynydd y Gymraeg.”
Gwersi
Yn ôl Cadeirydd Mudiad Dathlu’r Gymraeg, Penri Williams, mae gwersi i’w dysgu at y dyfodol:
“Mae teimlad cryf bod y broses wedi cwympo rhwng dwy stôl gyda Llywodraeth Cymru’n llunio’r Safonau, a Chomisiynydd y Gymraeg yn ymgynghori ar sut i’w gweithredu.
“Gan y bydd y broses hon yn cael ei hailadrodd mewn perthynas â chyrff eraill yn y dyfodol, mae Mudiadau Dathlu’r Gymraeg yn pwyso ar y Comisiynydd a Llywodraeth Cymru i wella’r broses mewn ymateb i’r pryderon, ac i ymgynghori’n llawn ar y Safonau eu hunain mewn modd fydd yn hygyrch i ddefnyddwyr y gwasanaethau dan sylw, sef y cyhoedd.”
‘Trafod’
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn hapus i gyfarfod â Mudiadau Dathlu’r Gymraeg er mwyn trafod y pryderon sy’n cael eu nodi yn y llythyr:
“Beth sydd yn bwysig nawr yw ein bod ni, ar sail y dystiolaeth sydd wedi dod i law ac adroddiad arfaethedig y Comisiynydd yn dilyn yr ymchwiliad, yn gwneud y newidiadau angenrheidiol i’r safonau drafft er mwyn gallu eu cyflwyno ym mis Tachwedd 2014 fel y cytunwyd.
“Bydd y Llywodraeth yn trafod y safonau ymhellach efo Comisiynydd y Gymraeg unwaith yr ydym wedi derbyn yr adroddiad swyddogol sy’n manylu ar ganfyddiadau’r ymchwiliad.”
Bydd Comisiynydd y Gymraeg yn cyhoeddi ei chasgliadau yn sgil ei ‘hymchwiliad safonau’ ddiwedd y mis.
Mae’r stori lawn yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg.