Mae disgyblion mewn ysgol yn Sir Benfro wedi cael eu cludo i ysbyty Llwynhelyg ar ôl cymryd sylwedd cyfreithlon, neu legal highs.
Cafodd yr ambiwlans a’r ambiwlans awyr eu galw wedi i saith o ddisgyblion o Ysgol Gyfun Penfro gael eu taro’n wael tua 2 o’r gloch y pnawn yma.
Aed a rhai i uned achosion brys Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd fel rhagofal tra bu eraill yn derbyn triniaeth gan barafeddygon yn yr ysgol.
Yn ôl llefarydd ar ran Ysbyty Llwynhelyg, credir fod y disgyblion wedi adweithio i’r sylwedd yr oedden nhw wedi eu cymryd.
Nid yw bywydau’r disgyblion mewn peryg.
Dywed Heddlu Dyfed Powys eu bod yn ymchwilio i’r digwyddiad.
Ym mis Ebrill roedd pennaeth yr ysgol, Frank Ciccotti, wedi anfon llythyr at rieni yn dweud eu bod wedi cydweithredu gyda’r heddlu gyda rhaglen i godi ymwybyddiaeth am gyffuriau ymhlith y disgyblion.
Roedd yn dilyn problem gyda “nifer fechan” o fyfyrwyr yn yr ysgol yn “defnyddio sylweddau sydd ddim yn anghyfreithlon ar hyn o bryd,” meddai’r llythyr.
Polisi’r ysgol yw trin sylweddau cyfreithlon yn yr un modd a chyffuriau anghyfreithlon, meddai.