Canolfan Gelfyddydau'r Muni, Pontypridd
Mae cynghorwyr cabinet Rhondda Cynon Taf wedi pleidleisio o blaid  cau canolfannau celfyddydol – gan gynnwys Canolfan Gelfyddydau’r Muni ym Mhontypridd – fel rhan o’u cynllun i arbed arian.

Bydd Amgueddfa Cwm Cynon yn Aberdâr hefyd yn cau a bydd y cyngor hefyd yn rhoi’r gorau i ariannu Amgueddfa Pontypridd.

Ond mae’r cabinet wedi gohirio penderfyniad ynglŷn â chau Canolfan Hamdden Llanilltud Faerdre, Pwll Nofio Bronwydd ym Mhorth a throsglwyddo gofal Phwll Nofio Y Ddraenen Wen ger Pontypridd i ofal ysgol uwchradd leol.

Dyma ail ran cynlluniau’r cyngor i geisio arbed £70 miliwn o’i gyllideb dros y pedair blynedd nesaf.

Fel rhan gyntaf y toriadau, penderfynodd y cyngor i godi’r oedran y mae plant yn dechrau addysg llawn amser o dair i bedair oed. Fe wnaethon nhw hefyd  gau nifer o lyfrgelloedd a chanolfannau dydd i’r henoed, a chwtogi gwasanaethau ieuenctid.

Dywed y cyngor eu bod yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd er mwyn arbed yr arian. Ond roedd ’na feirniadaeth o’r penderfyniadau ymhlith ymgyrchwyr yn y galeri cyhoeddus yn y cyngor gyda nifer yn mynegi eu siom ar wefannau cymdeithasol.