Opera Cenedlaethol Cymru
Mae cwmni Opera Cenedlaethol Cymru (WNO) wedi ennill gwobr genedlaethol, sy’n cydnabod cerddoriaeth fyw gorau Prydain, am eu cynyrchiadau o operau Lulu, Lohengrin and Paul Bunyan.
Mae’r wobr yn cael ei chyflwyno ar y cyd gan y Gymdeithas Philharmonic Frenhinol a Radio 3 i’r cynhyrchiad cerddorol byw o’r ansawdd uchaf yn 2013.
Cafodd Lulu a Lohengrin eu perfformio gan WNO a’r perfformiad o Paul Bunyan gan Opera Ieuenctid WNO. Roedd y perfformiad yn cynnwys mwy na 100 o gantorion, offerynwyr cerddorfaol, technegwyr a gwneuthurwyr dillad rhwng 16-25 oed.
‘Llysgennad arbennig i Gymru’
Wrth longyfarch y cwmni, dywedodd y Gweinidog Diwylliant, John Griffiths: “Mae’r WNO yn llysgennad arbennig i Gymru a’i diwylliant, ac mae’n adlewyrchu ymroddiad y cwmni i weithio gyda phobol ifanc a chymunedau.
“Rwy’n falch fod Cyngor Celfyddydau Cymru yn gallu helpu WNO i gynhyrchu opera o safon uchel iawn yn ogystal â helpu i greu cyfleoedd i bobol ifanc a difreintiedig.”