William Hague
Mae’r Ysgrifennydd Tramor William Hague wedi rhybuddio Rwsia y bydd yn rhaid caniatáu’r etholiadau yn yr Wcráin i fynd yn eu blaen yn ddi-rwystr os yw eisiau osgoi rhagor o sancsiynau economaidd gan yr Undeb Ewropeaidd.

Yn dilyn trafodaethau gyda gweinidogion tramor yr Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel, fe wfftiodd William Hague ganlyniadau’r refferendwm dros y penwythnos, a gafodd ei gynnal gan gefnogwyr Rwsia yn nwyrain yr Wcrain.

Yn ôl y trefnwyr, roedd y canlyniadau’n dangos bod y mwyafrif yn rhanbarthau Donetsk a Luhansk o blaid hunan reolaeth. Ond dywedodd William Hague nad oedd gan y canlyniadau unrhyw hygrededd ac na fydden nhw’n cael eu derbyn yn rhyngwladol.

Dywedodd bod gweinidogion tramor yr UE wedi ehangu’r gwaharddiadau teithio a rhewi asedau 13 o unigolion ychwanegol yn ogystal â dau gwmni yn y Crimea.

Fe fydd llywodraethau’r UE yn aros i weld a fydd Rwsia yn parchu etholiad arlywyddol  yr Wcrain yn Kiev ar 25 Mai, cyn penderfynu a fydd yn cyhoeddi sancsiynau mwy pellgyrhaeddol.