Stuart Hall
Ni fydd y darlledwr Stuart Hall yn rhoi tystiolaeth yn y llys wrth geisio amddiffyn ei hun yn erbyn honiadau o ymosod yn rhywiol, clywodd rheithgor heddiw.

Mae Hall, 84, wedi pledio’n ddieuog i 20 o honiadau o dreisio ac ymosod yn anweddus ar ddwy ferch ifanc rhwng 1976 a 1981.

Aeth y ddwy at yr heddlu ar ôl i Hall gael ei garcharu’r llynedd am gyfres o ymosodiadau anweddus hanesyddol yn erbyn 13 o ferched ifainc.

Ar ôl i’r erlyniad orffen cyflwyno’u hachos yn Llys y Goron Preston, dywedodd Crispin Aylett QC, sy’n amddiffyn Hall, nad oedd yn bwriadu “galw ar y diffynnydd i roi tystiolaeth.”

Mae’r erlyniad yn honni bod cyn gyflwynydd It’s a Knockout wedi rhoi alcohol i’r merched ifanc cyn eu treisio.

Mae un o’r merched, Merch B, yn honni bod Hall wedi ei threisio pan oedd hi’n 12 oed mewn stablau, a’i fod wedyn wedi ei threisio mewn nifer o leoliadau, gan gynnwys stiwdios y BBC, pan oedd hi’n 14 a 15 oed.

Mae’r ferch arall, merch A, yn honni ei bod wedi cael ei threisio sawl gwaith yn stiwdios y BBC ym Manceinion pan oedd hi rhwng 14 a 16 oed.

Dywed Hall bod y merched wedi cydsynio i gael cysylltiad rhywiol, ac mae’n gwadu treisio’r ferch mewn stablau.

Mae Hall wedi cyfaddef ymosod yn anweddus ar Ferch B pan oedd hi’n 13 oed.

Yn gynharach clywodd y rheithgor fod Hall wedi ei “synnu” pan gafodd ei gyhuddo o’r honiadau diweddaraf gan y ddwy ddynes.

Ychwanegodd ei fod yn “bryder difrifol” eu bod wedi “aros bron i 12 mis” i wneud eu honiadau, meddai.

Cafodd Hall ei garcharu am 15 mis y llynedd ar ôl iddo gyfaddef ymosod yn anweddus ar 13 o ferched rhwng 9 a 17 oed.

Cafodd ei ddedfryd ei ymestyn i 30 mis gan y Llys Apêl ar ôl i’r Twrne Cyffredinol ddadlau nad oedd y ddedfryd wreiddiol yn ddigon llym.