Y brotest yn Aberystwyth heddiw
Daeth y newyddion bore ma fod aelodau o Gymdeithas yr Iaith wedi paentio adeilad arall Llywodraeth Cymru, y tro hwn yn Aberystwyth, gyda sloganau.
Mae’n rhan o ymgyrch ddiweddar gan y mudiad iaith i brotestio yn erbyn Llywodraeth Bae Caerdydd am beidio â gwneud digon i geisio achub y Gymraeg yn dilyn canlyniadau’r Cyfrifiad diwethaf.
Ond heddiw fe feirniadodd y Prif Weinidog Carwyn Jones ddulliau’r mudiad, gan ddweud eu bod yn perthyn i’r “60au a’r 70au”.
Anufudd-dod sifil
Pythefnos yn ôl cafodd cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Robin Farrar, ei arestio wedi iddo chwistrellu slogan ar adeilad Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd fel rhan o’r ymgyrch.
Mae’r mudiad wedi bod yn galw ar Carwyn Jones a’i Lywodraeth i ymgorffori chwe phwynt sylfaenol yn ei pholisïau, gan gynnwys addysg Gymraeg i bawb, tegwch ariannol i’r iaith, a threfn gynllunio newydd er budd cymunedau.
Ers mis Ionawr eleni mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymgyrchu gan ddefnyddio dulliau anufudd-dod sifil di-drais, gan gynnwys paentio sloganau, protestiadau a meddiannu adeiladau.
Fe ddywedodd y mudiad eu bod am ddefnyddio tactegau o’r fath oherwydd eu bod yn teimlo nad oedd dulliau eraill o ddenu sylw Llywodraeth Cymru wedi gweithio.
“Er gwaethaf blwyddyn gron o lythyru, cynnal cyfarfodydd, cymryd rhan mewn cynadleddau a thrafodaethau di-ri gyda’r Llywodraeth, mae’n ymddangos i ni erbyn hyn, mai anufudd-dod dinesig a gweithredu cadarnhaol yw’r unig fodd o sicrhau bod Carwyn Jones a’r Llywodraeth yn gweithredu,” meddai Robin Farrar.
Carwyn yn cynnig “cig”
Ond mae Carwyn Jones o’r farn nad yw dulliau’r mudiad bellach yn briodol yn y sefyllfa wleidyddol sydd ohoni heddiw.
“Mae yna ryw fath o feddylfryd gan rai o aelodau Cymdeithas yr Iaith eu bod nhw’n delio gyda gweinyddiaeth yma yng Nghaerdydd a oedd yr un peth ag yn y 60au a 70au sef ei fod e’n weinyddiaeth a oedd yn hollol yn erbyn yr iaith. Nid felly yw e,” meddai’r Prif Weinidog wrth golwg360.
“Ry’n ni’n gefnogol iawn i’r iaith. Dyw rhai o’r pethau y maen nhw wedi gofyn amdanyn nhw ddim yn ymarferol o gwbl. Ond ry’n ni yn gefnogol o’r iaith.
“Fe fydd datganiad polisi yn dod o fewn wythnosau. Maen nhw’n dal i feddwl ein bod ni yn yr un sefyllfa a oedden ni ddeugain mlynedd yn ôl.”
Pan ofynnwyd beth yn union fydd cynnwys y datganiad, dywedodd y bydd “cig” arno.
“Mae’n bwysig i bobol sylweddoli fod llywodraeth gennym ni yma sy’n gefnogol iawn i’r iaith,” meddai Carwyn Jones. “Dyw hi ddim yn wir i ddweud bod yna ryw ffordd rwydd i ddatrys y broblem ond datrys y broblem fydd yn rhaid i ni wneud (o ran ffigyrau’r Cyfrifiad).”
Felly beth yw’ch barn chi? Oes angen i Gymdeithas yr Iaith ddefnyddio’r tactegau yma er mwyn ymladd dros y Gymraeg? Neu a ydyn nhw’n ddulliau sydd yn perthyn i oes a fu?