Mae Llywodraeth Cymru wedi wfftio cyhuddiadau gan y Ceidwadwyr yng Nghymru eu bod nhw wedi ceisio atal llythyr gan gyfarwyddwr meddygol y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr rhag cael ei gyhoeddi.
Mewn llythyr i Dr Chris Jones, cyfarwyddwr meddygol GIG Cymru, a gafodd ei gyhoeddi tri mis yn ôl fe gododd Syr Bruce Keogh bryderon ynglŷn â chyfraddau marwolaethau mewn chwe ysbyty yng Nghymru gan awgrymu y dylai’r gwasanaeth iechyd gynnal ymchwiliad.
Mae Ceidwadwyr Cymru nawr wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am geisio atal y llythyr rhag cael ei gyhoeddi ar ôl adroddiadau bod cyngor cyfreithiol y Llywodraeth wedi awgrymu y dylai’r ddau unigolyn allu trafod y materion hyn yn breifat.
Ond fe fynnodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi ymddwyn yn hollol agored drwy gyhoeddi’r e-byst yn unol â’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Ceidwadwyr yn cyhuddo
Yn ôl adroddiadau yn y Daily Mail fe awgrymodd cyfarwyddwr gwasanaethau cyfreithiol Llywodraeth Cymru na ddylai’r e-byst gael eu rhyddhau’n gyhoeddus oherwydd y byddai hyn yn tanseilio’r “man diogel” ble gallai Dr Jones a Dr Keogh drafod eu pryderon.
Mewn ymateb i hyn fe ddywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Darren Millar, nad oedd Llafur yn barod i wynebu’r gwirionedd ynglŷn â’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
“Mae Gweinidogion Llafur Llywodraeth Cymru wedi cael eu dal yn ceisio cuddio pryderon gan brif feddyg Lloegr ynglŷn â chyfradd marwolaethau mewn ysbytai yng Nghymru a’r amseroedd aros hirfaith,” meddai Darren Millar.
“Mae data 2013 yn dangos fod pob ysbyty yng Nghymru, ac eithrio tri, â chyfradd marwolaethau uwch na’r cyfartaledd yng Nghymru a Lloegr. Ond eto roedd Gweinidogion Llafur eisiau cadw’r peth yn dawel er mwyn osgoi beirniadaeth ac wedi gwrthod cymryd cyngor ac ymchwilio – mae’n warth.
“Petai unrhyw le ym Mhrydain â chyfraddau marwolaethau mor uchel â’r rheiny yng Nghymru fe fyddai ymchwiliad fel un Swydd Stafford wedi bod erbyn nawr, ond mae Llafur yn warthus yn cuddio’u methiannau nhw am resymau gwleidyddol cul.”
Cyhuddiadau ‘di-sail’
Mewn ymateb fe fynnodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod eu gwaith yn y gwasanaeth iechyd yn dryloyw, gan wfftio cyhuddiadau eu bod yn celu ffigyrau ynglŷn â chyfraddau marwolaethau.
“Ni wnaeth Gweinidogion Cymreig rwystro cyhoeddiad e-bost Syr Bruce Keogh i’r Dirprwy Brif Swyddog Meddygol,” meddai datganiad gan Lywodraeth Cymru.
“Cafodd yr e-bost ei ryddhau gan GIG Lloegr, ac mae wedi bod yn gyhoeddus ers tri mis. Cafodd ein llythyr ni ei anfon, gan swyddog, fel rhan o’r broses arferol ar gyfer ystyried ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth.
“Yn yr e-bost hwnnw fe ddywedodd Syr Bruce Keogh bod ‘data annigonol i ddod i gasgliad y dylai ymchwiliad gael ei gynnal i unrhyw ysbyty yng Nghymru’.
“Mae GIG Cymru yn agored, tryloyw a chyda lefel uwch o archwilio nag unrhyw ran arall o’r DU. Mae cyfraddau marwolaethau yng Nghymru yn cael eu cyhoeddi bob tri mis ac mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos gwelliant.
“Os oes materion yn codi, rydym yn gweithio’n gyflym i’w datrys a dydyn ni ddim yn oedi i ymchwilio pan fo angen.
“Mae awgrymu fod y GIG yng Nghymru felly yn celu cyfraddau marwolaethau uchel yn hollol wirion ac yn ddi-sail.”