Mae dynes 28 oed wedi bod gerbron ynadon heddiw mewn cysylltiad â marwolaeth dyn yn dilyn tân mewn fflat yn Ynysybwl ger Pontypridd.

Bu Rebecca Joanne Jenkins o Abertawe gerbron Llys Ynadon Merthyr Tudful ar gyhuddiad  o ddynladdiad ac o gynnau tân yn fwriadol gan beryglu bywydau eraill.

Bu farw dyn 46 oed yn Ysbyty Brenhinol Gwent ar ôl cael ei achub o’r fflat am 8.25yh nos Wener, 9 Mai.

Mae archwiliad post mortem wedi dangos bod y dyn wedi marw o effeithiau anadlu mwg. Nid yw wedi cael ei adnabod yn ffurfiol hyd yn hyn.

Ni wnaeth Jenkins gais am fechnïaeth ac nid oedd wedi cyflwyno ple.

Bydd yn cael ei chadw yn y ddalfa cyn ymddangos yn Llys y Goron Merthyr ar 27 Mai.

Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i amgylchiadau’r tân.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Mark Lewis: “Hoffwn ddiolch i gymuned Ynysybwl am eu cymorth gyda’r ymchwiliad hyd yn hyn ac rydym yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad yma i gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101 neu Taclo’r Taclau’n ddienw ar 0800 555 111.