Rolf Harris
Clywodd y rheithgor heddiw bod y diddanwr Rolf Harris wedi ymosod yn anweddus ar ferch yn ystod gwyliau yn Hawaii pan oedd hi’n 13 mlwydd oed.

Wrth roi tystiolaeth y  tu ôl i len yn Llys y Goron Southwark yn Llundain heddiw, honnodd y ferch bod Rolf, 84, wedi cyffwrdd ynddi pan oedd hi newydd ddod allan o’r gawod yn ystod y gwyliau yn 1978.

Ychwanegodd bod y ffordd yr oedd Rolf Harris yn ei chofleidio “ychydig yn iasol”.

Roedd gwraig Rolf Harris, Alwen, ei nith a’i frawd yng nghyfraith ymhlith y perthnasau yn y llys heddiw, ynghyd â dwsinau o newyddiadurwyr .

Nid yw’r digwyddiad honedig yn cael ei gynnwys ymhlith y cyhuddiadau mae Rolf Harris yn eu hwynebu oherwydd ei fod wedi digwyddodd dramor, cyn y gellid erlyn troseddau o’r fath yn y DU.

Ond mae’r ddynes wedi cael ei henwi ar saith o’r 12 cyhuddiad o ymosodiad anweddus mae’r artist a’r diddanwr yn eu hwynebu. Mae’n gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn.

Mae’r ddynes  yn honni bod Rolf Harris wedi parhau i’w cham-drin hi am nifer o flynyddoedd ac aeth ymlaen i ddweud ei bod hi wedi cael perthynas  rywiol gyda Harris nes ei bod yn ei hugeiniau  hwyr.