Mae Arlywydd Nigeria yn fodlon mynychu uwchgynhadledd diogelwch ym Mharis i ganolbwyntio ar y rhwydwaith terfysgol Boko Haram, wnaeth herwgipio mwy na 200 o ferched ysgol yn Nigeria fis diwethaf, yn ol swyddog yn Ffrainc.

Daeth y newydd wrth i Boko Haram ryddhau fideo newydd sy’n dangos tua 130 o’r merched gafodd eu cipio.

Dywedodd arweinydd y grŵp, Abubakar Shekau, y bydd y merched yn cael eu caethiwo nes bod pob terfysgwr sydd wedi cael ei garcharu yn cael eu rhyddhau.

Mae Ffrainc yn dal i aros am gadarnhad gan arweinwyr y pedair gwlad sy’n ffinio â Nigeria – Benin, Cameroon, Chad a Niger – i weld os byddan nhw hefyd yn mynychu’r digwyddiad ddydd Sadwrn.

Bydd cynrychiolwyr o Brydain, yr UE a’r Unol Daleithiau hefyd yn cael eu gwahodd i’r digwyddiad.

Mae Boko Haram eisoes wedi bygwth gwerthu’r merched fel caethweision.