Cast 35 Diwrnod
Rhybudd: Mae’r darn yma’n trafod pennod wyth ‘35 Diwrnod’ ar S4C. Peidiwch â’i ddarllen os nad ydych chi wedi gwylio’r bennod.

Ciron Gruffudd sydd wedi bod yn gwylio…

Typical.  Ar ôl aros 34 diwrnod am rywun i farw, mae o leiaf dau berson, tri o bosib, ella pedwar os da chi’n cyfri Tony sydd ar ei wely angau, yn marw mewn 24 awr.

Ac roedd ein hymweliad olaf i Stad Crud yr Awel yn wych iawn wrth i gwestiynau’r wyth wythnos diwethaf gael eu hateb.

Ond eto, er bod y bennod olaf yn wibdaith, a yw hynny’n esgusodi’r ffaith bod cyn lleied wedi digwydd yn y penodau blaenorol?

Gyda’r newyddion yr wythnos diwethaf bod ffigyrau gwylio S4C yn ystod yr oriau brig wedi gostwng eto, ac yn yr oes ddigidol pan mae cymaint o opsiynau eraill ar y bocs, siawns bod rhaid i ddrama ar unrhyw sianel gydio o’r dechrau un?

Mae oes aur dramâu sy’n datblygu’n araf fel hyn ar ben, yn fy marn i, a sgwn i faint o wylwyr a gollwyd yn hanner gynta’r gyfres?

Ond i’r rhai ohonon ni wnaeth aros gyda ’35 Diwrnod’, beth a ddysgwyd yn y bennod olaf?

Jan

Ta ta, felly Jan. Roeddet ti’n meddwl dy fod di’n gwneud y peth iawn yn dial marwolaeth dy chwaer ond ymddengys bod pethau’n fwy cymhleth nag oeddet ti’n ei feddwl.

O’n i’n gwybod bod rhyw reswm pam ei bod hi’n ebychu “probation officer” bob tro roedd hi’n gweld cariad newydd  cyn bartner ei chwaer. Wrth gwrs, dim probation officer oedd Hannah’n y diwedd ond cariad Mark o’r dechau un, a mam ei ferch o.

Ond fe wnes i chwerthin pan ddywedodd Mark na fyddai Jan yn gweld Cerys eto oherwydd ei fod o a’i deulu yn symud i ffwrdd i’r metropolis ‘na ble mae modd byw yn anhysbys am weddill eich dyddiau. Dim Llundain, Efrog Newydd na Hong Kong – ond Aberystwyth.

Yn y diwedd, roedd ei marwolaeth hi’n eilradd i weddill digwyddiadau’r bennod a dwi ddim yn siŵr sut dwi’n teimlo am y ffaith na lladd ei hun, drwy fframio Beti, wnaeth hi’n y diwedd. Teimlo fel ffordd hawdd allan i ferch oedd yn ymddangos mor benderfynol a chryf.

Ond dwi chwaith yn malio llawer a dwi’n meddwl mai Jan oedd un o’r cymeriadau gwannaf yn y gyfres wrth i hanesion aelwydydd eraill y clôs ddatblygu’n well dros yr wythnosau.

Beth oeddech chi’n ei feddwl? Oeddech chi’n hapus gyda’r diweddglo neu’n disgwyl rhywbeth arall?

Y Teulu Jenkins

Un peth dwi ddim cweit yn ei ddeall, ac efallai y gallwch chi daflu rhagor o oleuni ar hyn, yw pam fod Richard yn parhau i wadu mor gryf ei fod o wedi cael affêr gyda Rachel?

Roedd Cerian yn dweud ei bod hi wedi clywed pob dim, cyn anfon llythyr anhysbys at ei mam yn datgelu’r berthynas.

Ond ai clywed dyn a dynes yn dod i mewn wnaeth hi a chymryd mai ei thad a’i gariad oedden nhw? A yw hi’n bosibl mai Sali a’r dentist oedd yn cael hanci panci?

Unwaith eto, roedd Ryland Teifi yn dda iawn fel Richard wrth i straen yr holl sefyllfa fynd yn ormod iddo. Roedd Beth Roberts hefyd wedi cael cyfle i fynd amdani a dangos ei doniau am y tro cyntaf wrth i Sali gyrraedd pen ei thennyn.

Er ei fod o wedi cael ei hel o gartref y teulu gan Sali, sef cynllun gwreiddiol Jan, fe welwyd ef yn gyrru nôl mewn i’r stad ar wib yn y diwedd am ryw reswm. Unrhyw syniadau pam?

Y Morisiaid
Dim Melodi wnaeth llofruddio Jan yn y diwedd, er mawr siom. Ond eto, mae ’na rywbeth dychrynllyd am y ferch fach ‘na.

Roedd y datguddiad mai cyn wraig Ben oedd wedi blacmelio Gruff yn wych – rhywbeth nad oeddwn i wedi ei ddisgwyl o gwbl – ac yn ein hatgoffa nad dim ond trigolion y clôs sy’n ymateb dros ben llestri yn y gyfres.

Bu Beti yn treulio rhan fwyaf o’r bennod yn syllu i nunlle – ac o wybod ei harbenigedd hi’n pobi cacennau gyda chynhwysyn arbennig, roedd hi’n edrych fel petai hi’n dioddef sgil effeithiau  bwyta cacen gydag ychydig o faco hud Bobo ynddo.

Ond fe wnaeth Beti, yn y diwedd, lwyddo i gerdded draw i dŷ Jan, a chodi cyllell oddi ar y llawr, dim ond i Jan ei hun wneud y weithred ar ei rhan hi. Dim fy mod i wedi disgwyl iddi ladd Jan chwaith – roedd gan Beti dafod miniog ond doedd hi ddim yn llofruddiwr.

Huw a Caroline James… a Bobo

Ers i Bobo gyrraedd, mae pethau wedi poethi. Mae o’n ymddangos ym mhob man – mwy fel consuriwr na chlown, wedi meddwl.

Roedd ei natur farus wedi golygu ei fod o wedi rhyddhau Jan, am bres, wrth barhau i geisio cael rhagor o arian gan Richard hefyd.

Ond eto, mae rhywbeth eitha’ hoffus am Bobo a dwi’m yn meddwl y byddai’n byw’n hir yn y byd mawr heb gael ei chwaer wrth ei ymyl. Caroline yw’r drwg yn y caws, y ddafad ddu, yr un peryglus.

Ond wnaeth hi ladd Huw? Dwi’n meddwl ei bod hi wedi. Y peth gorau amdani hi a Bobo yn ffoi rhag gangsters a’r awdurdodau gyda’i gilydd yw ei fod o’n cynnig ei hun am ail gyfres yn ddigon del.

Dychmygwch ‘24’ wedi ei groesi â Jeremy Kyle. Dyna fyddai cyfres gwerth ei gwylio.

Tony a Pat
Wedi i Linda adael wythnos diwethaf i fod gyda Roger, y cyfarwyddwr ffilm, roeddwn i’n edrych ymlaen at weld sut fyddai Pat a Tony yn delio a’i gilydd yr wythnos hon.

Cefais i mo fy siomi o gwbl. Roedd cyflwyno Patrick fel Mr Hyde i Dr Jekyll Pat yn wefreiddiol ac roedd gweld Tony yn dioddef, ac yn cael ei haeddiant, yn well fyth.

Unwaith eto, roedd perfformiad Matthew Gravelle yn arbennig iawn. Roedd rhaid edmygu Tony a’i ddyfalbarhad hefyd – mi fyswn i wedi sgwennu siec iddi o’r dechrau un.

Dwi ddim yn deall pam y byddai Jan wedi rhoi’r gacen wenwynig y tu allan i’w tŷ nhw chwaith – yn enwedig gan fod Tony wedi ei threisio hi a hithau ddim yn gwybod am y gwenwyn yn y gacen.  Dim yn gwneud llawer o synnwyr i mi pam y byddai’n gwneud rhywbeth neis fel yna.

Ond, gyda Pat nawr yn farw, a Tony wedi ei gaethiwo i’r gwely – a yw hynny’n golygu y bydd corff arall i’w ddarganfod yng Nghrud yr Awel yn fuan?

Dwi wedi gwneud fy sỳms hefyd. Roedd Beti wedi pobi’r gacen wenwynig pum diwrnod cyn i Pat gael blas ohoni.

A yw Victoria sponge yn para mor hi a hynny fel arfer – hyd oed mewn tin bwrpasol? Efallai mai’r gwenwyn gadwodd hi’n ffres. Dyna dip i gystadleuwyr cyfres nesa Great British Bake Off – digon o wenwyn yn eich cacen.

Moment yr wythnos

Mathew Gravelle fel Patrick/Pat. Un o’r perfformiadau mwyaf dychrynllyd, arbennig ac iasoer dwi wedi ei weld ers amser maith. Gwobr Bafta i’r dyn yma os gwelwch yn dda.

A dyna ni. Diolch i chi am ddarllen a gadael sylwadau dros yr wyth wythnos diwethaf. Fydd ’na gyfres 2? Arhoswn i weld.