Conchita Wurst yn cystadlu yn Copenhagen (Llun: PA )
Mae Arlywydd Awstria, Heinz Fischer, wedi dweud bod buddugoliaeth Conchita Wurst yng nghystadleuaeth Eurovision yn Denmarc neithiwr “nid yn unig yn fuddugoliaeth i Awstria ond yn fwy byth i amrywioldeb a goddefgarwch yn Ewrop.”
Conchita Wurst yw cymeriad arall y llanc barfog Thomas Neuwirth, 25 oed, ddaeth i’r brig yn y gystadleuaeth yn Copenhagen efo’i gân “Rise Like a Phoenix”.
Roedd nifer o wleidyddion o Ddwyrain Ewrop gan gynnwys Rwsia, wedi beirniadu Conchita gan ei disgrifio fel esiampl perffaith o’r dirywiad gorllewinol.
Neithiwr beth bynnag fe lwyddodd i ddenu pleidleisiau gan hyd yn oed y panel o feirniaid o Rwsia.
Mewn cynhadledd i’r wasg yn Vienna dywedodd Conchita Wurst bod hyn yn profi “nad oes modd diraddio gwlad i’w goddefgarwch neu anoddefgarwch”.
Mae pleidiau gwleidyddol eraill yn Awstria, heblaw am y blaid fwyaf sef ‘Plaid Rhyddid’ sydd ar yr adain dde, hefyd wedi llongyfarch Conchita.