Oscar Pistorius yn y llys (Llun: PA)
Mae achos llys Oscar Pistorius wedi ail-ddechrau yn Ne Affrica, a hynny wedi pythefnos o egwyl.
Mae’r amddiffyniad yn galw ei bedwerydd tyst, wrth geisio argyhoeddi’r barnwr mai damwain drasig oedd y digwyddiad pan saethodd y paralympiwr ei gariad yn farw yn ei gartre’ ar Chwefror 14 y llynedd.
Mae’r llys wedi clywed gan Johan Stander, y person cynta’ i Oscar Pistorius ei ffonio yn dilyn saethu Reeva Steenkamp .
Mae Mr Stander yn byw yn ymyl Oscar Pistorius, ac roedd yn un o’r rhai cynta’ i fod yn y fan a’r lle.
Mae Oscar Pistorius wedi’i gyhuddo o gynllwynio i ladd Reeva Steenkamp. Ond mae e’n dal ei fod wedi camgymryd ei gariad am leidr oedd wedi torri i mewn i’w gartre’.