Mae ymchwiliad llofruddiaeth ar y gweill, wedi i barafeddygon ddod o hyd i ddynes wedi brifo mewn bloc o fflatiau.
Fe gafodd y ddynes 27 oed ei chludo i’r Queen’s Medical Centre yn ninas Nottingham neithiwr, wedi i’r gwasanaethau brys ddod o hyd iddi mewn cyfeiriad yn Ilkeston, Swydd Derby, tua 9yh.
Bu’r ddynes farw yn yr ysbyty yn fuan wedi cyrraedd yno.
Fe gafodd dyn 48 oed ei arestio yn y fflat, ac mae’n dal i fod yn y ddalfa.