Gerry Adams - wedi'i ryddhau ar ôl cael ei holi am bedwar niwrnod
Mae mab gwraig a gafodd ei lladd gan yr IRA yn 1972, wedi cyhuddo Gerry Adams o fygwth “taro’n ôl” petai e’n rhyddhau enwau’r rhai y mae’n credu sy’n gyfrifol am farwolaeth ei fam.
Mae Michael McConville, mab Jean McConville, yn dweud y bydd brwydr ei deulu am gyfiawnder yn parhau, wedi i Lywydd plaid Sinn Fein gael ei ryddhau.
Ond, mae Michael McConville hefyd yn dweud ei fod yn ofni y caiff ei saethu’n farw petai’n cyhoeddi enwau’r rhai y mae e’n eu hamau o ladd ei fam, wrth yr heddlu.
Fe gafodd Gerry Adams, 65, ei ryddhau o swyddfa heddlu Antrim wedi pedwar diwrnod o holia. Mae adroddiad yn cael ei anfon ar erlynwyr am lofruddiaeth mam i 10 o blant yn 1972 a’r cysylltiad honedig gyda’r IRA.
Ar raglen Today ar Radio 4 heddiw, meddai Michael McConville:
“Fe ddywedodd Gerry Adams wrtha’ i, “Os fyddi di’n cyhoeddi’r enwau, dw i’n gobeithio y byddi di’n barod ar gyfer unrhyw daro’n ôl ac ymateb ddaw wedyn.”