Mae cadeirydd llywodraethwyr ysgol uwchradd yn sir Gaerffili, wedi canmol gweithredu sydyn a lwyddodd i osgoi achos o lofruddiaeth yno.
Fe gafodd Heddlu Gwent eu galw i Ysgol Uwchradd Cwmcarn ddydd Iau, oherwydd y modd amheus yr oedd dau ddisgybl yn ymddwyn.
Fe gafodd dwy ferch – 14 a 15 oed – eu harestio. Maen nhw bellach wedi’u rhyddhau ar fechniaeth.
Y gred ydi mai’r athrawes Fathemateg, Alison Cray, 46, oedd targed y cynllwyn.
Llythyr llywodraethwraig
Ar wefan yr ysgol, mae Gary Thomas, Cadeirydd y llywodraethwyr wedi cyhoeddi llythyr.
“Gallaf gadarnhau ein bod, fel corff llywodraethwyr, yn hynod o falch o’r ffordd y gwnaeth pawb ymateb mor gyflym,” meddai.
“Rydw i’n browd iawn o’r ysgol – ac yn enwedig o’r ffordd y mae’r disgyblion wedi cael eu haddysgu i fod yn gyfrifol ac i riportio unrhyw amheuon yn syth bin.”
Arestio
Mae disgybl 15 oed wedi’i harestio ar amheuaeth o fygwth lladd; o fod a llafn yn ei meddiant ar dir yr ysgol; ac o gynllwynio i lofruddio.
Fe gafodd y ferch 14 oed o Rhisga ei harestio ar amheuaeth o gynllwynio i lofruddio.