Mae tribiwnlys yng Nghaerdydd wedi gwrthod honiadau o wahaniaethu ar sail rhyw a gafodd eu dwyn yn erbyn cogydd enwog o’r Fenni.

Roedd Chloe Maisey wedi gwneud 21 o honiadau yn erbyn pennaeth bwyty’r Hardwick, Stephen Terry.

Fe fu Chloe Maisey, 19, o Ferthyr Tudful, yn gweithio fel cogydd dan hyfforddiant ym mwyty’r Harwick am dri mis yn 2013.

Rhai o’r cwynion

Meddai Chloe Maisey wrth y tribiwnlys:

* nid oedd ystafell newid i ferched yn yr Hardwick, a’i bod hi wedi gorfod newid o flaen dynion o gydweithwyr;

* roedd staff wedi gwneud sylwadau am ei chorff;

* roedd un dyn o gydweithiwr wedi bygwth taro ei phen-ôl;

* honiad arall oedd ei bod wedi cael ei chau mewn rhewgell.

Angen dweud

Ond roedd Stephen Terry yn mynnu nad oedd hi wedi dod ato ef i gwyno, ac y dylai Chloe Maisey fod wedi gwneud hynny.