Mae beiciwr modur wedi marw, a dau o bobol eraill wedi’u hanafu, ar ffordd yr A489 ym Mhowys.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i’r ddamwain rhwng Y Drenewydd a Cheri toc cyn hanner dydd, ddydd Sul.

Roedd gwrthdrawiad wedi bod rhwng pedwar cerbyd – Suzuki Wagon lliw melyn, MG ZR gwyrdd, Ford Galaxy glas a beic modur Honda CBR.

Fe fu’r ffordd ar gau am dros chwe awr.