Anne Maguire, a drywanwyd yn ei dosbarth yr wythnos ddiwetha'
Fe fydd dyn 42 oed o Bort Talbot yn ymddangos yn y llys heddiw wedi’i gyhuddo o “gyfathrebu maleisus” yn dilyn llofruddiaeth athrawes yn Leeds yr wythnos ddiwetha’.

Mae Heddlu Gorllewin Swydd Efrog wedi cadarnhau bod Robert Riley wedi’i gyhuddo ddoe, ac y bydd yn ymddangos gerbron ynadon yn Leeds heddiw.

Ef yw’r ail berson i gael ei gyhuddo yn dilyn marwolaeth Anne Maguire, a gafodd ei thrywanu yn ei hystafell ddosbarth yn Corpus Christi Catholic College, Leeds, yr wythnos ddiwetha’.