Gerry Adams (llun: PA)
Mae Gerry Adams, arweinydd Sinn Fein, wedi cael ei ryddhau gan yr heddlu, ar ôl cael ei holi ynghylch llofruddiaeth gwraig o Belfast yn 1972.

Bydd yr heddlu’n anfon adroddiad i wasanaeth erlyn Gogledd Iwerddon a nhw fydd yn penderfynu ei erlyn neu beidio ar ôl ystyried tystiolaeth yr heddlu.

Mae Gerry Adams wedi gwadu’n llwyr honiadau gan gyd-weriniaethwyr iddo orchymyn llofruddiaeth Jean McConville, gweddw a mam i 10 o blant.

Meddai llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Iwerddon:

“Mae dyn 65 oed a gafodd ei arestio gan dditectifs o gangen troseddau difrifol Heddlu Gogledd Iwerddon sy’n ymchwilio i herwgipio a llofruddiaeth Jean McConville yn 1972 ddydd Mercher 30 Ebrill wedi cael ei ryddhau tra bydd adroddiad yn cael ei anfon i’r Gwasanaeth Erlyn Cyhoeddus.”

Fe fu arweinydd Sinn Fein yn y ddalfa am bron i 96 awr ar ôl cael ei arestio wedi iddo fynd i orsaf heddlu Antrim o’i wirfodd ddydd Mercher.

Mae ei arestio wedi arwain at ffrae wleidyddol yn y dalaith (gweler stori isod).