Protestwyr yn cael eu rhyddhau o orsaf heddlu yn Odessa heddiw (AP Photo/Vadim Ghirda)
Mae’r heddlu yn yr Wcrain wedi rhyddhau 67 o brotestwyr a oedd wedi cael eu harestio yn yr helyntion yn ninas Odessa ddydd Gwener.

Cafodd dros 40 o bobl eu lladd ar ôl i gannoedd o brotestwyr sy’n gefnogol i Rwsia ymosod ar bencadlys yr heddlu yn y ddinas ar lan y Môr Du.

Fe fu farw rhai o anafiadau bwledi, ond prif achos y marwolaethau oedd tân a ledodd drwy adeilad un o undebau’r wlad, lle’r oedd y protestwyr yn ceisio lloches.

Mae prif weinidog yr Wcrain, Arseniy Yatsenuk, wedi ymweld ag Odessa heddiw.

Dywedodd y byddai ymchwiliad i fethiant yr heddlu i reoli’r anhrefn dydd Gwener, gan awgrymu bod Rwsia y tu ôl i weithredoedd y protestwyr.

‘Trasiedi i’r Wcrain gyfan’

“Nid trasiedi i Odessa yn unig yw hwn,” meddai. “Mae’n drasiedi i’r Wcrain gyfan.”

Dywed ei fod wedi gorchymyn erlynwyr i gael hyd i “bawb o’r trefnwyr a phawb o’r rheini o dan arweiniad Rwsia a gychwynnodd ymosodiad marwol ar yr Wcrain ac Odessa.”

Odessa yw’r ddinas fwyaf rhwng penrhyn Crimea a gafodd ei ymgorffori gan Rwsia ym mis Mawrth, a rhanbarth Trans-Dniester ym Moldova lle mae gan Rwsia filwyr yn cadw’r heddwch.

Y pryder yw mai nod terfynol Rwsia yw ennill rheolaeth ar ddarn mawr o’r Wcrain o Trans-Dniester i’r dwyrain.