Leanne Wood, Arweinydd Plaid Cymru
Byddai annibyniaeth i’r Alban o fudd mawr i Gymru, yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Mewn erthygl ym mhapur newydd The Scotsman i gyd-fynd â’i hymweliad â’r Alban, mae’n esbonio pam ei bod hi’n gobeithio y bydd yr ymgyrch ‘Ie’ yn llwyddiannus yno:
“Mae ein cefndryd Celtaidd (annibynnol) yn Iwerddon ymysg partneriaid masnachol pwysicaf Cymru, a byddai Alban ffyniannus a fyddai’n sefyll ar ei thraed ei hun yn gorfodi ail-gydbwyso economaidd ar yr ynysoedd hyn.
“Byddai hynny’n cynnig cyfleoedd na chafwyd erioed o’r blaen i fusnesau ac i greu swyddi ym mhob un o’n cenhedloedd.
“A byddai’n golygu ail-gydbwyso gwleidyddol lle gallai, o’r diwedd, partneriaeth seiliedig ar gydraddoldeb a pharchu’n gilydd fod yn sail am gyfeillgarwch cenedlaethol newydd yn ynysoedd Prydain.”
Gan annog yr Albanwyr i bleidleisio dros annibyniaeth, dywed:
“Mae’r diddordeb sydyn yn yr Alban o’r tu allan wedi digwydd oherwydd bod yr Alban wedi grymuso’i hun gyda’r dewis ynghylch ei dyfodol.
“Bydd pleidlais Ie ym mis Medi’n golygu y bydd pobl yr Alban wedi cael eu grymuso am byth.”
Papur newydd yn cefnogi annibyniaeth
Mae Leanne Wood yn yr Alban ar y diwrnod y mae un o bapurau newydd y wlad wedi datgan ei gefnogaeth i bleidlais dros annibyniaeth yn y refferendwm ym mis Medi.
Y Sunday Herald yw’r papur newydd cyntaf i ddatgan ei gefnogaeth yn gyhoeddus dros annibyniaeth.
Mae’r clawr blaen wedi’i neilltuo i’r neges “Sunday Herald says Yes”, a dywed yr erthygl olygyddol:
“Mae’r Alban yn genedl hynafol ac yn gymdeithas fodern. Rydym yn deall y gorffennol, hyd eithaf ein gallu, ac yn dyfalu’r dyfodol. Ond dyw hanes yn ddim byd o gymharu â bywydau’r plant sy’n cael eu geni’n awr, y bore yma, yn ninasoedd, trefi a phentrefi’r wlad yma.
“Ar eu rhan nhw, mynnwn hawlio dyfodol gwell a mwy cyfiawn lle bydd llywodraethau eu gwlad yn cael eu rheoli bob amser gan benderfyniadau ei dinasyddion.”
Fe wnaeth y papur gefnogi’r SNP yn etholiadau Senedd yr Alban yn 2007 a 2011.