Mae o leiaf 350 o bobl wedi cael eu lladd mewn tirlithriad anferth yng ngogledd-ddwyrain Afghanistan.

Wrth i gannoedd o drigolion ardaloedd cyfagos ymuno yn y chwilio, yr ofnau yw fod hyd at 2,000 o bobl yn dal ar goll. Mae adroddiadau fod tua 120 o dai wedi eu claddu o dan y mwd.

Gan fod pentref Hobo Barak lle digwyddodd y tithlithriad ddoe mewn ardal mor anghysbell, mae’n lle anodd iawn i achubwyr ei gyrraedd.

Mae llawer o drefi a phentrefi’r wlad ar lethrau serth sy’n agored i dirlithriadau wedi cyfnodau o law trwm.