Anne Maguire (Llun: PA)
Ar ddechrau cynhadledd flynyddol undeb y prifathrawon, NAHT, mae cynrychiolwyr wedi cynnal munud o dawelwch i gofio am yr athrawes a gafodd ei thrywanu i farwolaeth wrth ei gwaith dydd Llun.
Roedd Anne Maguire, 61 oed, yn athrawes uchel ei pharch yng ngholeg catholig Corpus Christi yn Leeds.
Gofynnodd llywydd yr NAHT, Bernadette Hunter, i’r 300 o ddirprwywyr yn y gynhadledd yn Birmingham i dalu teyrnged i’r athrawes “ymroddgar, ysbrydoledig a gofalus yr oedd cymaint mor hoff ohoni”.
Safodd y prifathrawon a phlygu pen am y munud o dawelwch a rhoi cymeradwyaeth ar y diwedd.
Wedyn, dywedodd Bernadette Hunter y byddai cynhadledd NAHT yn “dathlu gwaith rhyfeddol athrawon a phrifathrawon a’r gwasanaeth nodedig y mae’n galwedigaeth wedi ei roi i’r wlad yma”.