Jeremy Clarkson - wedi cael rhybudd terfynol
Mae’r cyflwynydd dadleuol Jeremy Clarkson wedi cael rhybudd terfynol gan y BBC ar ôl honiadau iddo ddefnyddio’r gair ‘nigger’ wrth adrodd hwiangerdd.

Er ei fod yn gwadu’n llwyr iddo ynganu’r gair hiliol, mae Clarkson, cyflwynydd y rhaglen ar geir Top Gear, wedi ymddiheuro.

Roedd Clarkson wedi cael ei ffilmio’n adrodd hwiangerdd i blant sy’n cychwyn ‘Eeeny Meeny Miny Moe’ wrth ffilmio Top Gear, ond mae’n gwadu iddo ynganu’r gair ynddi.

Ni fydd yr eitem yn cael ei darlledu.

Dyma’r diweddaraf mewn cyfres hir o sylwadau tramgwyddus gan Clarkson. Yn y gorffennol mae wedi:

  • Gwneud cymhariaeth rhwng car Japaneaidd a phobl gyda thyfiant ar eu hwynebau
  • Cyhuddo pobl sy’n taflu eu hunain o flaen trenau o fod yn hunanol
  • Dweud y dylai gweithwyr sy’n mynd ar streic gael eu saethu.

Mae Harriet Harman, dirprwy arweinydd y Blaid Lafur, wedi galw ar y BBC i sacio’r cyflwynydd.

“Nid oes lle i neb sy’n defnyddio’r gair ‘N’ yn gyhoeddus neu’n breifat – waeth beth fo’r cyd-destun – yng Nghorfforaeth Ddarlledu Prydain,” meddai.