Mae sylwebwyr milwrol a oedd wedi cael eu dal yn gaeth am dros wythnos gan wrthryfelwyr Rwsiaidd yn yr Wcrain wedi cael eu rhyddhau.
Cafodd y sylwebwyr o’r Sefydliad dros Ddiogelwch a Chydweithredu yn Ewrop eu herwgipio yn Slovyansk, yn nwyrain Wcrain, eu herwgipio gan y gwrthryfelwyr wythnos i ddoe.
Mae un o’r sylwebwyr, y Cyrnol Axel Schneider o’r Almaen a’i gyfieithydd o Wcrain, wedi cael eu gweld yn cerdded yn rhydd, ac mae un o arweinwyr y gwrthryfelwyr Rwsiaidd wedi cadarnhau bod y saith sylwebydd a’u pump o gynorthwywyr Wcranaidd wedi cael eu rhyddhau.
Cynyddu, fodd bynnag, y mae’r pryder am sefyllfa’r wlad, ar ôl i 31 o bobl gael eu lladd mewn gwrthdaro rhwng byddin Wcrain a gwrthryfelwyr Rwsiaidd yn ninas Odessa ddoe.