Dawnswyr gwerin yn dathlu Gwyl If an
Wrth i Gymru gychwyn penwythnos Gŵyl y Banc, mae Plaid Cymru wedi galw am drefnu rhaglen o ddigwyddiadau i gryfhau’r diwydiant twristiaeth ac arddangos atyniadau’r genedl.
Byddai’r rhaglen ‘Dathlu Cymru’ yn cynnwys rhaglen o ddigwyddiadau i ddathlu diwylliant a threftadaeth Cymru, yn ogystal â’i haddasrwydd fel lle i gynnal digwyddiadau chwaraeon ac academaidd rhyngwladol o bwys.
Yn ôl yr ASE Jill Evans fe ddylai Cymru ddilyn esiampl yr Alban, sy’n cynnal ei hail ddigwyddiad ‘Homecoming Scotland’, yn y bwriad o apelio at dwristiaid a denu buddsoddiad i’r wlad.
Potensial
“Mae Plaid Cymru eisiau creu swyddi twristiaeth a threftadaeth o safon uchel trwy ddenu mwy o bobol i ymweld â’n gwlad – a hefyd, i ddenu’r rhai sydd wedi mynd i ffwrdd i ddychwelyd adref,” meddai.
“Nid yn unig y mae gennym fantais tirwedd ac arfordir ysblennydd a’n bod yn genedl ddwyieithog, ond mae gennym hefyd hanes cyfoethog.
“Trwy arddangos ein cyfleusterau rhagorol ac ansawdd ein bywyd, yn ogystal â photensial Cymru at y dyfodol, gallwn hefyd ddenu buddsoddiad o bob cwr o’r byd i wella Cymru – heb sôn am atgoffa ein pobl ifanc am yr hyn sy’n wych am Gymru, a’u hannog i ddefnyddio eu sgiliau a’u doniau i greu swyddi yma a gwella ein heconomi.”