Gerry Adams, llywydd Sinn Fein (Llun: PA)
Mae arweinydd Sinn Fein, Gerry Adams, yn dal i gael ei holi gan dditectifs ynghylch llofruddiaeth gan yr IRA dros 40 mlynedd yn ôl.
Neithiwr, fe wnaeth barnwr ganiatáu 48 awr arall i Heddlu Gogledd Iwerddon gadw Adams yng ngorsaf heddlu Antrim.
Mae arweinydd Sinn Fein yn gwadu honiadau gan gyd-weriniaethwyr iddo orchymyn i Jean McConville, mam i 10 o blant, gael ei llofruddio yn 1972.
Meddai llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Iwerddon:
“Mae ditectifs o’r gangen troseddau difrifol sy’n ymchwilio i herwgipio a llofruddiaeth Jean McConville yn 1972 wedi cael 48 awr ychwanegol i gyfweld dyn 65 oed a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â’r ymchwiliad ddydd Mercher 30 Ebrill.”
Mae dirprwy brif weinidog Gogledd Iwerddon, Martin McGuinness, wedi honni mai “cabal” o fewn heddlu Gogledd Iwerddon sy’n gyfrifol am arestio ei gyd-weriniaethwr, ac mai eu cymhellion yw difrodi’r broses heddwch a phardduo Sinn Fein ar drothwy etholiad Ewrop.