Mae swyddog diogelwch wedi saethu at grwp o feddygon tramor mewn ysbyty ym mhrifddinas Afghanistan.

Mae tri meddyg o America wedi’u lladd, ac mae un nyrs wedi’i hanafu yn y digwyddiad yn ysbyty ‘Care International’ yn Kabul.

Roedd dau o’r meddygon yn dad a mab, a’r trydydd yn ddoctor oedd wedi bod yn gweithio i fudiad Care International yn Kabul ers saith mlynedd.