Mae cynlluniau i adeiladu 850 o dai ac ysgol gynradd newydd sbon ar safle hen lofa yn Rhondda Cynon Taf.
Mae CPL Industries Ltd yn bwriadu chwalu glofa a gwaith mwyngloddio Cwm Coke yn Tynant ac adeiladu cartrefi a fflatiau ar y safle 90 hectar.
Mae’r cwmni hefyd yn ystyried gwario £5.2 miliwn ar ysgol gynradd ar gyfer 240 o ddisgyblion.
Yn ôl adroddiad gafodd ei gyflwyno i bwyllgor rheoli cynllunio Cyngor Rhondda Cynon Taf heddiw, byddai’r datblygiad yn creu 60 o swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu a 230 arall wedi iddo gael ei orffen.
Byddai’r datblygiad yn dod o 2,400 o bobol i’r ardal, yn ôl yr adroddiad, ac yn hwb i’r economi.
Gwrthwynebiad
Cafodd pedwar llythyr o wrthwynebiad eu cyflwyno i’r cyngor cyn y cyfarfod heddiw, yn datgan pryder am draffig a sŵn ychwanegol yn ogystal â’r effaith ar wasanaethau lleol.
Yn 2007, cafodd cais i adeiladu 630 o dai ac adeiladau cymunedol ar y safle eu gwrthod ar ôl apêl i Lywodraeth Cymru.