Bradley Manning - bellach gyda'r hawl i'w alw ei hun yn Chelsea Elizabeth Manning
Mae barnwr yn yr Unol Daleithiau wedi caniatau cais i newid enw yn swyddogol gan y milwr a gafwyd yn euog o ddatgelu gwybodaeth gyfrinachol i WikiLeaks.

Fe fydd Bradley Edward Manning bellach yn cael ei nabod gan yr enw Chelsea Elizabeth Manning.

Mae’r cyn-ddadansoddwr gwybodaeth gyfrinachol bellach yn treulio cyfnod o 35 mlynedd dan glo am drosglwyddo gwybodaeth gyfrinachol i’r wefan. Mae yng nghachar ar faes milwrol yn Kansas.

Dim ond ychydig funudau y cymrodd y Barnwr David King i ganiatau’r newid enw.

Mae’r caniatad yn golygu y bydd cofnodion o yrfa filwrol Bradley Manning yn cael eu haddasu, ond dyw’r newid ddim yn gorfodi’r fyddin i drin Manning fel dynes yn hytrach na dyn na’i symud i garchar menywod yn hytrach na dynion.