Ryan Giggs
Mae arolwg barn gan wefan newyddion ‘Here is the City’ wedi dangos mai ychydig o gefnogaeth sydd i benodi Ryan Giggs yn rheolwr nesaf Man U ymhlith y cefnogwyr.

Dim ond 7.1% o’r cefnogwyr bleidleisiodd tros Giggs, sydd wedi’i benodi’n rheolwr dros dro tan ddiwedd y tymor.

Yn ôl y pôl piniwn, rheolwr Borussia Dortmund, Jurgen Klopp yw’r ffefryn, gyda 48.1% yn dweud yr hoffen nhw weld yr Almaenwr yn dod i Old Trafford.

Ond mae Klopp eisoes wedi dweud ei fod yn awyddus i aros yn Dortmund.

Cafodd David Moyes ei ddiswyddo yn dilyn tymor siomedig i’r tîm enillodd dlws Uwch Gynghrair Lloegr yn ystod tymor olaf Syr Alex Ferguson wrth y llyw.

Moyes oedd dewis Ferguson i’w olynu pan wnaeth e ymddeol ar ddiwedd y tymor diwethaf, ac mae disgwyl i’r cyn-reolwr fod yn un o’r rhai fydd yn dewis olynydd Moyes unwaith eto.

Ymhlith yr enwau eraill ar y rhestr mae rheolwr yr Iseldiroedd, Louis van Gaal (16.6%), rheolwr Chelsea, Jose Mourinho (16.2%) a rheolwr Atletico Madrid, Diego Simeone (5.8%).

Felly pwy ddylai gael y swydd?