Llanbed yn ennill Cwpan Emrys Morgan
Roedd buddugoliaeth tîm pêl-droed Llanbedr Pont Steffan yng Nghwpan Emrys Morgan dros benwythnos y Pasg yn un hanesyddol i’r clwb, yn ôl eu hysgrifennydd Nigel Edwards.
Llwyddodd Tîm yr Wythnos golwg360 i drechu Ail Dîm Caersws yn y rownd derfynol ar ddydd Gwener y Groglith gan ennill 2-0 draw yn Rhaeadr Gwy.
James Gudgeon a Jason Jones oedd y sgorwyr i Lambed, Gudgeon yn rhwydo’r gyntaf ar ôl pum munud yn unig cyn i Jones ddyblu’r fantais ar ôl hanner awr o chwarae.
Gyda Llambed yn rheoli’r gêm ac yn creu rhagor o gyfleoedd yn yr hanner cyntaf roedd hi’n edrych yn gyfforddus i’r tîm o Geredigion ar yr egwyl.
Er i Gaersws frwydro yn ôl yn yr ail hanner wrth geisio achub canlyniad ni wnaethon nhw ddigon o’u cyfleoedd hwyr, gyda Llanbed yn dathlu wrth i’ch chwib olaf chwythu.
Ac roedd y tîm ar ben eu digon wrth ddathlu cipio Cwpan Emrys Morgan am y tro cyntaf yn eu hanes.
“Y pellaf ry’n ni wedi bod cyn hyn yw’r quarter finals felly ry’n ni wedi mynd dwy gam yn bellach nag erioed,” meddai Nigel Edwards.
“Roedd hi’n fuddugoliaeth hanesyddol i ni, y tro cyntaf i ni gyrraedd y ffeinal a’r tro cyntaf i ni ennill y cwpan.
“Bore dydd Sadwrn fi’n credu aeth pawb gartre ar ôl dathlu tipyn bach!”
A dyw’r tymor ddim drosodd i Lambed chwaith. Fe fyddan nhw’n ymladd am ail dlws o’r tymor mewn pythefnos pan fyddwn nhw’n wynebu Cei Newydd yn ffeinal Cwpan Dai Dynamo Davies.
Bydd y gêm honno’n cael ei chwarae ar Ŵyl y Banc ddydd Llun 5 Mai, gyda’r gic gyntaf yng Nghastell Newydd Emlyn am 6.00yh.
Os hoffech chi i golwg360 roi sylw i’ch tîm chi fel ein Tîm yr Wythnos, cysylltwch â ni!