Fe fydd diwrnod olaf y gêm Bencampwriaeth rhwng Morgannwg a Swydd Gaerloyw yn Stadiwm Swalec, Caerdydd, yn cael ei gwtogi gan y glaw.

Gorffennodd y trydydd diwrnod gyda’r tîm cartref ar 80-3, chwe rhediad y tu ôl i’r ymwelwyr.

Mae’r dyfarnwyr Nigel Llong a Martin Bodenham wedi bod yn archwilio’r cae y bore ma.

Mae disgwyl i’r ornest ail-ddechrau am 12yh yn dilyn sawl archwiliad o’r cae y bore ma.

Eisoes mae 16 o belawdau wedi cael eu colli oherwydd y glaw, sy’n golygu y bydd uchafswm o 80 o belawdau’n cael eu bowlio heddiw.

Fe fydd Will Bragg (29*) a Murray Goodwin (26*) yn parhau ag ymdrechion Morgannwg i sicrhau gêm gyfartal.

Cafodd Morgannwg eu bowlio allan am 145 yn eu batiad cyntaf ar lain wnaeth gynnig tipyn o gymorth i’r bowlwyr cyflym a’r troellwyr.

Dim ond Graham Wagg lwyddodd i gael y gorau ar fowlwyr Swydd Gaerloyw, wrth iddo daro 54 oddi ar 65 o belenni mewn batiad oedd yn cynnwys pum ergyd at y ffin ac un ergyd dros y ffin.

Dean Cosker oedd seren Morgannwg yn ystod batiad cyntaf Swydd Gaerloyw, wrth iddo gipio 5-46, y degfed tro iddo gipio pum wiced mewn batiad yn y Bencampwriaeth.

Cyrhaeddodd Swydd Gaerloyw sgôr o 231 i gyd allan, gan roi blaenoriaeth i’r ymwelwyr o 86.