Mae FIFA wedi cyhoeddi y bydd Barcelona’n cael prynu a gwerthu chwaraewyr yn ystod yr haf eleni ar ôl i’r clwb apelio yn erbyn eu gwaharddiad.

Ar ddechrau’r mis fe gyhoeddodd y corff sydd yn rheoli’r gêm y newyddion syfrdanol eu bod wedi rhoi gwaharddiad o flwyddyn i’r clwb, gan olygu na fyddai Barcelona’n medru trosglwyddo chwaraewyr tan haf 2015.

Ond ar ôl i’r clwb apelio’r penderfyniad mae FIFA gohirio’r gwaharddiad, ar ôl iddyn nhw benderfynu nad oes digon o amser i orffen edrych i mewn i’r achos cyn i ffenestr drosglwyddo’r haf agor ar 1 Gorffennaf eleni.

Mewn datganiad ar wefan FIFA dywedodd yr awdurdodau eu bod wedi ystyried “cymhlethdod” yr achos a’r tebygolrwydd y bydd apêl Barcelona’n cymryd sbel.

Cafodd y gwaharddiad ei roi ar y clwb am dorri rheolau ynglŷn ag arwyddo chwaraewyr o dan 18 oed.

Gallai’ clwb dal wynebu’r gosb, fyddai mwy na thebyg yn golygu gwahardd rhag prynu a gwerthu chwaraewyr drwy gydol 2015.

Ond mae’n golygu y gall y clwb nawr fanteisio ar wneud newidiadau i’r garfan dros y misoedd nesaf, gyda’r golwr Victor Valdes a’r capten Carles Puyol eisoes wedi cyhoeddi eu bod am adael.

Mae disgwyl felly i’r clwb geisio cryfhau eu hamddiffyn yn yr haf, a does dim rhwystr bellach chwaith iddyn nhw arwyddo’r golwr Marc-Andre ter Stegen o Borussia Monchengladbach.