Tom Prydie - mae'n aros
Mae’r Dreigiau wedi cyhoeddi fod Ashley Smith a Tom Prydie wedi arwyddo cytundebau newydd gyda’r rhanbarth am dair blynedd ychwanegol.

Smith oedd capten ifancaf erioed y rhanbarth pan arweiniodd ei dîm allan yn erbyn Caerloyw yn 2008 pan yn ddim ond 21 oed.

Mae’r canolwr yn un o wynebau mwyaf cyfarwydd y rhanbarth o Went bellach ar ôl chwarae dros y Dreigiau 145 o weithiau dros naw tymor.

Ac wrth arwyddo fe ddywedodd Smith mai arweinyddiaeth Lyn Jones oedd y prif reswm dros benderfynu arwyddo estyniad.

“O dan ofal Lyn mae’r clwb yn symud i’r cyfeiriad iawn ac fe fydd yn dod yn llwyddiannus iawn dros y tymhorau nesaf,” meddai Ashley Smith. “Rwy’n edrych ymlaen at y dyfodol gyda’r Dreigiau a bod yn rhan o’i llwyddiant.”

Fe enillodd Tom Prydie ei gap cyntaf dros Gymru yn 2010 pan oedd yn 18 oed, yr ieuengaf erioed i wneud hynny.

Ond ers hynny prin mae ei gyfleoedd rhyngwladol wedi bod, a llynedd fe symudodd yr asgellwr o’r Gweilch i’r Dreigiau.

Ac fe fynnodd prif hyfforddwr y Dreigiau Lyn Jones y gall Prydie dal wireddu ei botensial wrth barhau i chwarae gyda’r rhanbarth.

“Mae Tom wedi bod yn addewidiol iawn yn ystod ei gyfnod gyda’r rhanbarth ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag ef dros y tymhorau nesaf,” meddai Lyn Jones.

“Mae’n gweithredu ac yn ymateb i bopeth mae’r hyfforddwyr yn taflu ato, mae ganddo botensial fel chwaraewr ac rwy’n gobeithio ei fod yn sylweddoli hynny ei hun.”