Hook eisiau gadael Perpignan
Dyw pethau ddim yn edrych yn dda ar James Hook a Perpignan, wedi canlyniad siomedig arall dros y penwythnos sy’n golygu’u bod bellach yn ail o waelod tabl y Top 14.
Collodd Perpignan o 31-46 yn erbyn Toulon, gyda Hook yn dechrau fel maswr unwaith eto ac yn trosi dau gais yn ogystal â phedair cic gosb.
Ond doedd hynny ddim yn ddigon i’w dîm ef a Luke Charteris – ac maen nhw’n wynebu Clermont, sy’n drydydd, yn eu gêm olaf er mwyn ceisio achub eu lle yn y gynghrair.
Wedi dweud hynny colli wnaeth Clermont wrth i Racing Metro gau’r bwlch arnyn nhw gyda buddugoliaeth o 22-6. Jamie Roberts oedd yr unig Gymro i ddechrau dros yr enillwyr, gyda Mike Phillips a Dan Lydiate yn dod oddi ar y fainc.
Alltudion yn Lloegr
Ac er bod Biarritz wedi hen ffarwelio a’r Top 14 bellach fe lwyddon nhw i gipio buddugoliaeth annisgwyl gan drechu Brive o 19-13 gydag Aled Brew yn y tîm.
Draw yng Nghynghrair Lloegr fe gadwodd Saracens eu mantais gyfforddus ar frig y gynghrair gyda buddugoliaeth o 18-23 dros Newcastle, gyda Rhys Gill a Warren Fury’n gwylio pethau’n datblygu o’r fainc.
Ymestynnodd Northampton eu mantais yn yr ail safle hefyd ar ôl trechu Gwyddelod Llundain o 36-21 – er iddyn nhw gael eu dychryn ar ôl bod yn gyfforddus ar y blaen o 31-0.
Yn anffodus i George North ni chafodd e ymuno yn y sbri wrth i’w dîm sgorio pum cais – ond fe lwyddodd Andy Fenby i gipio un o rai’r gwrthwynebwyr.
Cododd Caerfaddon i’r trydydd safle yn y tabl ar ôl trechu Caerwrangon o 32-20, er mai ar y fainc yn unig ddechreuodd Paul James a Gavin Henson wrth i dîm Jonathan Thomas golli unwaith eto.
Llithrodd Caerlŷr i bedwerydd ar ôl colli 24-20 i Harlequins wrth i Toby Flood gael cyfle fel maswr yn lle Owen Williams.
Martyn Thomas oedd yr unig Gymro ar y cae i Gaerloyw wrth iddyn nhw golli 38-30 i Wasps.
Ac fe sicrhaodd Cymry Sale fuddugoliaeth gyfforddus dros ben yn erbyn Caerwysg, gyda Dwayne Peel yn cipio cais ac Eifion Lewis-Roberts, Marc Jones a Jonathan Mills hefyd yn chwarae’u rhan.
Seren yr wythnos: Jamie Roberts – Racing yn parhau yn y ras am dlysau, gyda Roberts yn chwarae’i ran.
Siom yr wythnos: James Hook – dim syndod fod sôn ei fod am adael Perpignan ar ôl tymor siomedig i’r clwb.