Does ond un lle i ddechrau Cip ar y Cymry heddiw – ac er mai nos Fercher diwethaf y serennodd Gareth Bale does dim amheuaeth mai wythnos El Galesa oedd hi.
Gyda phum munud i fynd yn ffeinal y Copa del Rey, a hithau’n gyfartal rhwng Real Madrid a’u prif elynion Barcelona, daeth y bêl i Bale yn ei hanner ei hun.
Ond ar ôl taranu heibio i Marc Bartra (ac er gwaethaf ymdrechion hwnnw i’w daflu i’r dorf) fe redodd Bale hanner y cae cyn rhwydo’r gôl fuddugol a distewi’r rheiny oedd wedi amau ei gyfraniad i Fadrid yn y gemau mawr.
Roedd hyd yn oed ei gyd chwaraewyr yn dweud ei bod hi’n gôl syfrdanol.
Bu’n wythnos wych i Aaron Ramsey hefyd wrth iddo ddychwelyd o’i anaf i Arsenal. Yn gyntaf daeth oddi ar y fainc nos Fercher yn erbyn West Ham, ac o fewn pum munud roedd wedi creu trydedd gôl ei dîm i goroni buddugoliaeth o 3-1.
Mae Arsenal yn sicr wedi’i golli eleni, ac fe ddangosodd Ramsey pam brynhawn Sul gan ddechrau gêm am y tro cyntaf yn 2014 – gan sgorio un a chreu dwy arall wrth iddyn nhw drechu Hull 3-0.
Chwaraeodd Joe Allen 80 munud wrth i Lerpwl guro Norwich 3-2, buddugoliaeth sy’n eu cymryd nhw gam yn nes at ennill y gynghrair am y tro cyntaf ers 1990.
Mae Crystal Palace bellach yn saff ar ôl dwy fuddugoliaeth mewn wythnos yn erbyn Everton a West Ham, gyda Joe Ledley’n chwarae’r ddwy yn llawn.
Ac mae Abertawe hefyd yn edrych fel eu bod hwythau’n saff o’r cwymp ar ôl trechu Newcastle o 2-1, Ben Davies ac Ashley Williams yn eu hamddiffyn unwaith eto ac yn curo tîm Paul Dummett.
Ond mae Caerdydd yn parhau mewn perygl ar ôl cael gêm gyfartal yn unig yn erbyn Stoke, Declan John yn dod ymlaen am yr wyth munud olaf.
Yn y Bencampwriaeth fe chwaraeodd Andy King 90 munud i Gaerlŷr wrth iddyn nhw nesáu at ennill y gynghrair gyda buddugoliaeth o 1-0 dros QPR.
Mae Jack Collison a Wigan yn aros yn safleoedd y gemau ail gyfle ar ôl ennill un a cholli un dros benwythnos y Pasg.
Ond llithro wnaeth Ipswich o’r safleoedd hynny ar ôl pwynt yn unig o’u dwy gêm hwy, er gwaethaf ymdrechion Jonny Williams.
Rhoddwyd tolc i ymdrechion Reading o gyrraedd y gemau ail gyfle hefyd ar ôl i dîm Chris Gunter a Hal Robson-Kanu golli i Wigan o 3-0.
Mae’n parhau’n agos ar waelod y tabl hefyd, gyda dim ond gwahaniaeth goliau yn cadw Emyr Huws a Birmingham y tu allan i safleoedd y cwymp ar ôl colli ddwywaith.
Dim ond jyst o flaen Birmingham y mae clybiau Steve Morison (Millwall), Simon Church (Charlton) a David Cotterill (Doncaster) hefyd, gyda dwy gêm i fynd o’r tymor.
Yng Nghynghrair Un sicrhaodd Wolves ddyrchafiad a’r teitl dros y Pasg, gyda Dave Edwards a Sam Ricketts yn sgorio mewn buddugoliaeth o 6-4 dros Rotherham (ac Edwards yn creu dwy hefyd).
Ond parhau mewn trwbl mae Tranmere, gyda thîm Owain Fôn Williams, Jake Cassidy, Ash Taylor a Jason Koumas o fewn pwynt i safle’r cwymp.
Seren yr wythnos: Gareth Bale – braf ei weld ef a Ramsey’n cystadlu amdani unwaith eto (gyda chlod i Dave Edwards hefyd).
Siom yr wythnos: Emyr Huws – dwy golled yn mynd â’i dîm yn nes at y cwymp – mae angen un neu ddwy fwled arall gan Huws i’w hachub.