Lewis Hamilton
Phil Kynaston sy’n edrych yn ôl ar benwythnos llwyddiannus arall i Hamilton a’r Mercedes …
Llwyddodd Lewis Hamilton i ymestyn mantais Mercedes ymhellach ym mhedwaredd ras Pencampwriaeth F1 y Byd eleni gyda buddugoliaeth gyfforddus yn China.
Fe gaeodd y bwlch ar Nico Rosberg ar frig y bencampwriaeth hefyd, gyda’r Almaenwr am nawr yn parhau ar y brig ar ôl gorffen yn ail ar drac Shanghai.
Ond roedd yn benwythnos siomedig arall i Pastor Maldonado, Sebastian Vettel a Romain Grosjean ymysg eraill, wrth iddyn nhw i gyd wynebu trafferthion.
Llanast i Maldonado
Glaw oedd hanes sesiwn ragbrofol Grand Prix Tsieina – dim ond un penwythnos o bedwar sydd wedi bod yn sych hyd yma.
Hyd yn oed cyn diwedd y sesiwn, roedd penwythnos (ac yn wir ras nesaf) Pastor Maldonado yn mynd o chwith.
Yn ystod y sesiwn ymarfer cyntaf ddydd Gwener fe droellodd y car oherwydd bod Maldonado yn rhy brysur yn edrych ar sgrin ei olwyn lywio i wylio lle’r oedd o’n mynd!
Wedyn yn yr ail sesiwn, fe aeth o ar draws y graen a tharo’r wal wrth fynd yn rhy gyflym wrth fynediad y pits.
Gollwng olew
Yn ddiweddarach doedd Maldonado ddim yn gallu cymryd rhan yn y rhagbrawf gan i’w gar ddechrau gollwng olew (gyda chymhlethdod yr injans newydd, doedd dim posib trwsio’r broblem mewn pryd).
Gan fod y gŵr o Venezuela felly wedi dod yn olaf yn y rhagbrawf ar ôl methu â gosod amser, bydd ei gosb grid o bum safle a gafodd am ei ddamwain gyda Gutierrez ym Mahrain nawr yn cael ei gario drosodd i’r ras nesaf.
Gwelodd Q2 enwau mawr yn disgyn allan o’r sesiwn gyda Raikkonen, Button a Magnussen yn gorffen yn 11fed, 12fed a 15fed.
Llwyddodd y Williams i orffen yn syfrdanol yn y deg uchaf ar ôl trafferthion cynharach yn y glaw, gyda Felipe Massa yn chweched a Valeri Bottas yn seithfed.
Trydydd pole
Lewis Hamilton gipiodd ei drydydd pole o’r tymor gyda Daniel Ricciardo wrth ei ochr, gan guro Sebastian Vettel eto. Pedwerydd oedd Nico Rosberg ar ôl troelli’r car wrth fynd yn rhy gyflym drwy gornel olaf ei lap olaf, wrth drio curo Hamilton.
Roedd hyn ar ôl iddo gael data anghywir ar ei olwyn lywio ei fod yn bellach tu ôl i Hamilton er nad oedd o mewn gwirionedd.
Cafodd Sebastian Grosjean bnawn da gan yrru’r degfed amser cyflymaf.
Damweiniau, ond dim niwed
Roedd hi’n gychwyn prysur i’r ras i dîm Williams, gyda Bottas a Rosberg yn cyffwrdd (ar ôl i’r Mercedes gael dechrau gwael) a digwyddiad tebyg rhwng Massa a Fernando Alonso. Doedd dim difrod i’r un car.
Mae’n rhaid bod blaen car Alonso yn gryf dros ben gan mae dyma’r ail ras mewn tri ble mae Alonso wedi cael clec i’w fraich yrru ac wedi gallu parhau.
I wneud pethau’n waeth i Massa, gorfodwyd o i aros yn hir yn ei bitstop cyntaf gan fod ei beirianwyr wedi dod a theiars cefn newydd allan ar gyfer yr olwynion anghywir!
Roedd Hamilton yn bell ar y blaen ac yn gwneud i’w set gyntaf o deiars bara yn arbennig o hir ond roedd hi’n glir pan oedd hi’n amser eu newid, wrth iddo gael ei unig broblem o’r ras wrth adael y trac ar ei lap olaf cyn pitio.
Vettel yn flin
Am yr ail ras yn olynol gofynnodd Red Bull i Vettel symud draw i adael i’w gyd-yrrwr cyflymach basio. Nid oedd o mor gymwynasgar y tro yma.
“Tough luck” oedd ei ymateb i’r newyddion bod Ricciardo angen ei basio. Ymhen ychydig, roedd y gŵr o Awstralia ar y blaen – Vettel yn dweud ei fod wedi dilyn y cyfarwyddiadau, ond o’r tu allan roedd hi’n edrych yn debycach fod y pencampwr wedi gwneud camgymeriad.
Ar ôl ei ragbrawf mwyaf addawol y tymor hwn daeth realiti yn ôl i Romain Grosjean wrth i broblem gêr ddod â’i ras i ben. Yn y cyfamser roedd Rosberg yn prysur wneud i fyny am ei ddechrau gwael, gan gau’r bwlch ar Alonso am yr ail safle.
I ychwanegu at broblemau a rhwystredigaethau Vettel, roedd gan Komuri Kobayashi yn y Caterham y beiddgarwch i lapio’r Red Bull ar deiars mwy newydd.
Fflagio’n gynnar
Fe orffennodd y ras yn annisgwyl gyda’r chwifiwr fflag yn gwneud ei waith lap yn rhy gynnar! Fe arafodd Hamilton ychydig wedi gweld hyn, ond fe barhaodd heb golli gormod o amser. Tasai hi wedi bod yn ras mor agos â Bahrain, buasai hynny wedi bod yn gostus.
Ond ar ôl y camgymeriad di-eglur yma, fe gafodd y canlyniad ei gymryd o lap ynghynt oedd yn golygu nad oedd goddiweddiad Kobayashi ar Bianchi ar y lap ‘olaf’ yn cyfri.
Fe wellodd Rosberg ar ôl ei ddechrau gwael i orffen yn ail, gydag Alonso yn cwblhau’r podiwm yn y ras gyntaf ers i Stefano Domenicalli ymddiswyddo fel rheolwr y tîm. Fe arhosodd ‘D Ric’ o flaen Vettel.
Yn y bencampwriaeth, mae Rosberg yn cadw’i le ar y brig, ond bydd yn rhaid iddo guro Hamilton tro nesaf i aros yno.
I’r timau, mae gan Mercedes bron dair gwaith cymaint o bwyntiau a’r tîm sy’n ail, Red Bull, ond dim ond pum pwynt sydd rhyngddyn nhw a Ferrari yn bumed, felly o leiaf mae hon yn edrych yn ddiddorol.
Felly ar benwythnos lle’r oedd teiars ac olwynion llywio wedi cael effaith dyngedfennol, un peth sydd ddim yn troi yw mantais y Mercedes.