Ryan Giggs (Llun: Manchester Utd)
Yn ôl y disgwyl, mae Manchester United wedi cadarnhau eu bod wedi rhoi’r sac i’w rheolwr, David Moyes.

A’r Cymro, Ryan Giggs, fydd yn cymryd y llyw am y tro, gyda chymorth un arall o gyn-chwaraewyr y clwb, Nicky Butt.

Roedd y dyfalu wedi cryfhau am ddyfodol Moyes ddoe ar ôl i glwb Old Trafford golli i’w hen glwb yntau, Everton.

Roedd hynny’n ddiwedd ar unrhyw obaith i’r clwb chwarae ym mhrif gystadleuaeth Ewrop y flwyddyn nesa’ ac efallai ar eu cyfle i chwarae yng Nghwpan Europa.

Twitter

Fe ddaeth y cyhoeddiad ar wefan Twitter gyda’r clwb yn diolch i Moyes am ei waith caled a’i “integriti”.

Mae Ryan Giggs wedi bod yn gwneud cyrsiau hyfforddi yn ystod y tymor diwetha’ ac mae rhai’n dweud y gallai gael y swydd yn barhaol.

Roedd gan Moyes gytundeb chwe blynedd gwerth £4 miliwn y flwyddyn ac mae’n debyg o gael blwyddyn o gyflog yn iawndal.

Ef oedd dewis Syr Alex Ferguson i’w olynu yn y swydd.